Skip to content

Ysgol Dechnolegau Caerdydd

Row of students sat at their computer desks Row of students sat at their computer desks
01 - 02
Humanoid robot Humanoid robot

Ynglŷn â'r Ysgol

Mae Ysgol Dechnolegau Caerdydd yn cynnig graddau achrededig, dan arweiniad ymarferol, mewn Peirianneg, Cyfrifiadureg a Thechnolegau Creadigol.

Rydym yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr ar draws y diwydiant technoleg i ddylunio cyrsiau sy’n berthnasol i’r diwydiant ac sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd yn ofalus, gan gynnig cyfleoedd i chi gael profiad gwaith, parhau â’ch ymchwil, neu astudio gyda’n partneriaid rhyngwladol.

Fydd gennych fynediad at offer a labordai o safon diwydiant, lleoedd unigryw i fyfyrwyr, bythau VR, consolau gemau, a mwy.

Gyda mentoriaid hyfforddi myfyrwyr ymroddedig, mae'r ysgol yn meithrin cymuned gefnogol, glos. Yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd, rydyn ni'n eich adnabod wrth eich enw, a phan fyddwch chi'n astudio gyda ni, mi fyddwch yn dod yn rhan o'n cymuned.

 

01 - 04
Student wearing virtual headset and holding controllers Student wearing virtual headset and holding controllers

Cyfleusterau

Darganfod mwy

Mae’r Ysgol Dechnolegau yn cynnwys casgliad o labordai a mannau addysgu uwchdechnoleg pwrpasol, ardaloedd dysgu agored ar gyfer cydweithio, canolfan ymchwil i fyfyrwyr Doethuriaeth, ac ardaloedd cymdeithasol arbennig.

01 - 01

Eisiau darganfod mwy am astudio gyda ni?
Dewch i’n gweld yn un o’n Diwrnodau Agored.

Archebu eich lle