Skip to content

Dewch i ddarganfod mwy am wyddoniaeth a thechnoleg yr hanner tymor hwn yn nigwyddiad STEM Met Caerdydd

19 Chwefror 2025

Gwahoddir teuluoedd ar draws de Cymru i fynychu diwrnod llawn o weithdai gwyddoniaeth a thechnoleg rhad ac am ddim yr hanner tymor hwn fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd 2025.

Ar ddydd Sadwrn, 1 Mawrth, rhwng 10yb a 5yp, bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnal diwrnod llawn o sesiynau rhyngweithiol sy'n addas ar gyfer plant ysgolion cynradd, myfyrwyr ysgolion uwchradd a'u teuluoedd. Nod Gŵyl Wyddoniaeth Met Caerdydd, a gynhelir ar Gampws Llandaf, yw rhoi mwy o gyfle i blant a phobl ifanc ddarganfod mwy am wyddoniaeth a thechnoleg – a hynny am ddim.

 

A young girl wearing glasses poses for a photograph surrounded by a variety of colourful plushy toys

 

Bydd y digwyddiad yn cynnwys 20 o weithdai, gan gynnwys archwilio celloedd coch y gwaed o dan ficrosgop; dysgu am enynnau, gwrthgyrff a firysau; gwneud breichled DNA eich hun; cwrdd â robot Ysgol Dechnolegau Caerdydd; a chodio creadigol a cryptograffeg. Bydd y mynychwyr hefyd yn cael y cyfle unigryw i ymweld â phlanetariwm symudol Techniquest i gael profiad trochol 360° sy’n mynd â gwylwyr o ddyfnderoedd y cefnfor i’r llongau gofod sy’n cylchdroi’r Ddaear.

Bydd y diwrnod yn cael ei rannu’n ddau hanner, gyda staff o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Met Caerdydd yn cynnal gweithdai rhwng 10yb ac 2yp, ac yna bydd prynhawn o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar dechnoleg yng nghwmni Ysgol Dechnolegau Caerdydd o 2yp-5yp. Bydd pob gweithdy yn para rhwng 15-60 munud yn dibynnu ar y gweithgaredd.

Mae’r digwyddiad yn rhan o Ŵyl Wyddoniaeth flynyddol Caerdydd, a gynlluniwyd i arddangos Caerdydd fel canolbwynt ar gyfer ymchwil ym maes gwyddoniaeth a chyfathrebwyr gwyddoniaeth o fri rhyngwladol. A hithau’n ganolfan lewyrchus ar gyfer gweithgareddau STEM ym mhrifddinas Cymru a thu hwnt, bydd Met Caerdydd yn rhoi cyfle i deuluoedd brofi cyfleusterau’r Brifysgol a chwrdd â’r academyddion STEM o fri sy’n arwain y gweithdai.

I gofrestru ac archwilio'r rhestr lawn o weithdai, ewch i: Cardiff Science Festival at Cardiff Met 2025 Tickets, Sat 1 Mar 2025 at 10:00 | Eventbrite