Academydd Twristiaeth yn ymateb i gyhoeddiad Euro 2028
Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw bod y DU ac Iwerddon yn unig gynigwyr ar gyfer UEFA Euro 2028, mae Dr Jeanette Reis o’r Adran Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau ym Met Caerdydd yn tynnu sylw at sut mae hyn yn newyddion cadarnhaol i’r sector lletygarwch a busnesau yng Nghymru...
“Mae’r cyhoeddiad y bydd y DU ac Iwerddon yn cynnal Euro 2028 UEFA ar ôl i Dwrci dynnu ei chais yn ôl yn cael ei groesawu gyda dathliad yn ogystal â chydnabod bod llawer o waith i’w wneud. Mae hwn yn gyfle gwych i gymunedau a busnesau Caerdydd arddangos ein croeso cynnes Cymreig a’n cyfleusterau chwaraeon a thwristiaeth o’r radd flaenaf. Bydd yn cynnig amrywiaeth o fuddion uniongyrchol ac anuniongyrchol i ddarparwyr llety, y sector lletygarwch a busnesau ehangach ac yn atgyfnerthu ein henw da fel dinas digwyddiadau chwaraeon o’r radd flaenaf.
“Fodd bynnag, ynghyd â hynny daw rhai effeithiau negyddol – mwy o dagfeydd cerddwyr, ffyrdd a rheilffyrdd, mwy o alw ac felly cynyddu prisiau ar gyfer llety, sŵn, ymddygiad gwrthgymdeithasol a sbwriel... mae angen rheoli pob un ohonynt yn ofalus i sicrhau bod y digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth ac yn ddiogel er mwyn caniatáu i ymwelwyr a thrigolion gael amser pleserus.
“Mae Caerdydd yn brofiadol mewn cynnal digwyddiadau o’r math hwn ac mae’n siŵr y bydd yn camu i fyny. Mae amser i gynllunio, cydlynu a chynnwys arbenigwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol mewn gweithgareddau datblygu a chyflawni. Barod amdani 2028!”
Mae rhagor o wybodaeth am Dr Jeanette Reis ar gael ar ei phroffil academaidd ac ymchwil.