Cyhoeddiadau eraill:
CD: Cerddi Poeth (cyfrannwr)
Hyfforddwyr Dysgwyr: (cyfrannwr 2010/11 - Gwasg UWIC)
DVD Cymraeg: Arfer Da yn y sector Addysg Uwchradd: Cyfrwng Cymraeg (Y Coleg, 2010-11),
Adroddiad blynyddol ar UG Cymraeg CA2 CBAC fel Dirprwy Brif arholwr: (CBAC)
Prosiect Dynamo (Llywodraeth Cymru), yn cynhyrchu adnoddau i gefnogi prosiect Dynamo mewn ysgolion uwchradd (2006)
Aelod o dîm UWIC yn gyfrifol am gynhyrchu DVD Cyfrwng Cymraeg ar ddibenion hyfforddiant Estyn (Estyn): Arfer Da yn y sector Uwchradd cyfrwng Cymraeg (2010)
Arweinydd prosiect: DVD ar Arfer Dda yn y Sector Uwchradd – adnodd hyfforddi ar gyfer staff a hyfforddeion yn y sector Cyfrwng Cymraeg. Roedd y prosiect yn cynnwys cydweithio â chydweithwyr o raglenni Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg eraill yn Abertawe a Bangor, yn ogystal â thîm Met Caerdydd (2011)
Aelod o weithgor MYA yn gyfrifol am ymchwilio i effaith ac effeithiolrwydd yr MYA mewn detholiad o ysgolion. Mae'r grŵp hwn yn atebol i'r cydlynydd MYA ac yn llunio adroddiadau mewnol ar gynnydd MYA a ddefnyddiwyd i asesu effaith a rhoi adborth i Lywodraeth Cymry (2014-15).
Cyn ymuno â'r Ysgol Addysg, bum yn addysgu Cymraeg fel ail iaith am bymtheg mlynedd mewn ysgolion uwchradd ym Mhowys a Morgannwg Ganol. Enillais brofiad mewn dwy Adran Gymraeg ac fel Pennaeth Adran ym Mhowys ac yn Rhondda Cynon Taf, ac roeddwn yn Bennaeth Ieithoedd Tramor Modern ym Mryn Celynnog, Pontypridd. Cyn addysgu, cwblheais radd doethur ar Lenyddiaeth Cymraeg yr Oesoedd Canol.
Addysg Cymraeg ac Uwchradd yw fy nau brif faes pwnc, ac mae gennyf gariad at lenyddiaeth. Rwy'n cael fy nghyflogi fel Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac rwy'n Gyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer y cwrs BA (Anrhydedd) Addysg Uwchradd ar hyn o bryd. Rwyf hefyd yn gydlynydd ar gyfer y llwybr BA Cymraeg ac yn diwtor TAR Cymraeg. Rwy'n cefnogi myfyrwyr cyfrwng Cymraeg ar y rhaglen TAR fel rhan o'r Atodiad Cymhelliant (Cynllun Gwella) ac yn cynnal sesiynau Gloywi Iaith bob wythnos. Rwy'n Arweinydd Llwybr ar gyfer elfen Gymraeg y radd Astudiaethau Addysg a'r Gymraeg. Rwy'n aseswr ac yn diwtor RhAG (Rhaglen Athrawon Graddedig), gan gefnogi graddedigion sy'n hyfforddi yn y sector uwchradd Cyfrwng Cymraeg.
Ar lefel ehangach, rwy'n un o Uwch Diwtoriaid y Brifysgol, ac yn ymweld ag uwch fentoriaid a mentoriaid fel rhan o rôl Sicrhau Ansawdd. Rwy'n rhan o weithgorau megis Pwyllgor Llywio Uwchradd Met Caerdydd a hefyd grŵp rheoli SEWCTET, yn edrych ar ddatblygu staff a gwefan SEWCTET.
Rwyf wedi cynrychioli Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn natblygiad cyffrous Y Coleg. Cefais wahoddiad i fod yn aelod o'r bwrdd Academaidd, ac mae diddordeb gennyf yn y datblygiadau yn y maes hwn o ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch. Rwy'n cynrychioli'r Ysgol Addysg ar fwrdd mewnol Y Coleg.
Rwy'n arholwr allanol ar gyfer UG a Safon Uwch Cymraeg ar hyn o bryd, ac yn Ddirprwy Brif Arholwr ar gyfer UG CA2. Rwy'n cymryd rhan weithredol mewn trosolwg a datblygiad cwricwlaidd, ac yn gyfrifol am y modiwl CA2. Rwy'n cynrychioli'r sector Addysg Uwch mewn trafodaethau sy'n ymwneud â throsolwg cwricwlaidd o Safon Uwch Cymraeg, ac yn diwygio'r maes llafur UG yn ôl y gofyn fel rhan o'm hymrwymiadau yn CBAC.
Rwyf hefyd yn diwtor MYA, ac yn cefnogi amrywiaeth o fyfyrwyr Cynradd ac Uwchradd yn eu blwyddyn ymsefydlu a hefyd yn eu hastudiaethau Meistr. Rwy'n diwtor MA ar gyfer Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac rwyf wedi cefnogi myfyrwyr ymchwil yn llwyddiannus ar lefel EdD. Rwy'n un o Gymrodorion yr Academi Addysg Uwch.