Nid mater o ddewis cwrs addas yn unig yw gwneud y penderfyniad i ymgeisio am le mewn prifysgol. Bydd rhaid i chi benderfynu hefyd ble byddwch chi eisiau treulio blynyddoedd nesaf eich bywyd ...
Os ydych yn chwilio am fan lle y byddwch yn teimlo bod croeso mawr i chi; rhywle sy'n fywiog, sydd heb fod yn ddrud a lle mae'n hawdd teithio ynddo – Caerdydd yw'r ateb i chi!
Mae Caerdydd yn ddinas ifanc, lewyrchus ac egnïol sy'n llawn personoliaeth ac awyrgylch lle y ceir ystod heb ei hail o gyfleusterau chwaraeon, bywyd nos, siopa a mannau diddorol i ymweld â nhw.
Mae Caerdydd yn lle gwych i fod yn fyfyriwr ynddo gan ei bod yn ddinas fodern ddynamig ag iddi ansawdd bywyd na chewch chi mo'i well ond mewn nifer fechan o brifddinasoedd eraill yn Ewrop.
Mae Caerdydd yn ddigon ffodus i fod yn gartref i drysorau cenedlaethol megis Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Werin Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru ac adeiladau dinesig syfrdanol o hardd ag erwau ar ben erwau o dir gwyrdd agored o'u cwmpas. Os gallwch sbario ysbaid bach oddi wrth eich astudiaethau am ambell noson, cofiwch ddal ar y cyfle i gael profi'r ystod ragorol o adloniant sydd ar gael yng Nghaerdydd.
Mae yna ddigwyddiadau yn y ddinas ar hyd y flwyddyn ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y digwyddiadau hyn, rhestri'r theatrau a'r sioeau a'r cyngherddau, cysylltwch â Chanolfan Ymwelwyr Caerdydd ar 0870 1211 258, edrychwch ar gopi o Buzz a chadwch olwg ar hysbysfwrdd yr Undeb – fel arfer mae noson allan yng Nghaerdydd yn werth ei phrofi! Er yr holl newidiadau diweddar, mae Caerdydd yn dal i fod yn ddinas sy'n adnabyddus am ei chyfeillgarwch ac sydd wedi llwyddo i aros yn bentrefol ei naws.
Mae Caerdydd, sy'n ddinas gosmopolitan ac yn brifddinas ieuengaf Ewrop, yn lle delfrydol i ddod i'r brifysgol.
Mae'n cynnig popeth y byddech yn disgwyl ei gael mewn prifddinas – digwyddiadau chwaraeon mawr yn Stadiwm y Mileniwm, cannoedd o dafarnau, barrau a chlybiau gwahanol, celfyddydau, theatrau ac adloniant o safon byd, siopau sy'n amrywio o boutiques ardderchog hyd at hoff siopau cyfarwydd y stryd fawr, a thai bwyta a barrau ffasiynol ar lannau Bae Caerdydd.
Ond hefyd mae pob man o ddiddordeb yn y ddinas o fewn llai nag awr o daith o harddwch rhyfeddol naturiol Bannau Brycheiniog ac o draethau hyfryd enwog Penrhyn Gŵyr.
Mae'n ddigon bach i fod yn lle cyfeillgar, digon rhad a hawdd teithio o'i fewn, ond mae'n ddigon mawr i gynnig y pethau gorau y bydd gan brifddinas i'w cynnig – does unman yn well na Chaerdydd i gael bod yn fyfyriwr ynddo.