Pum mlynedd ar ôl COVID-19: Mae ymchwil newydd yn tynnu sylw at pam y cymerodd bacteria sy'n achosi haint plentyndod gymaint o amser i ddychwelyd ar ôl y pandemig
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd ac Ysbyty Plant Prifysgol Zurich wedi canfu pam fod bacteriwm sy’n gyfrifol am heintiau llwybr anadlol, a ddiflannodd yn ystod pandemig COVID-19, wedi cymryd llawer mwy o amser na heintiau eraill i ddychwelyd.
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd yr astudiaeth – a edrychodd ar y bacteriwm Mycoplasma pneumoniae ac sy’n cynrychioli’r dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr o’r haint i ddigwydd – yn y cyfnodolyn gwyddonol, The Lancet Microbe.
Mae Mycoplasma pneumoniae (Mycoplasma) yn un o brif achosion heintiau llwybr anadlol mewn plant. Er bod y rhan fwyaf o’r heintiau yn gymedrol ac yn hunan-gyfyngol, gall Mycoplasma achosi niwmonia difrifol neu heintiau sy’n dibennu yn yr ysbyty.
Crëwyd yr adroddiad, ‘Global spatiotemporal dynamics of Mycoplasma pneumoniae re-emergence after COVID-19 pandemic restrictions: an epidemiological and transmission modelling study’, y set ddata byd-eang fwyaf ar gyfer heintiau Mycoplasma yn dilyn pandemig COVID-19 – gan weithio gyda 65 o labordai diagnostig, o 29 o wledydd gwahanol ledled y byd.
Yn cyd-arwain ar yr ymchwil mae Dr Mike Beeton, sy’n Ddarllenydd mewn Microbioleg Feddygol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Dywedodd Dr Beeton: “Pan cafodd amryw o fesurau rheoli eu llacio, megis pellter cymdeithasol a chyfyngiadau clo, dychwelodd salwch, megis ffliw ac RSV, o fewn ychydig fisoedd. Er hynny, ni wnaeth Mycoplasma. Am y rheswm hwn, roeddem yn awyddus i weithio gyda gwyddonwyr a chlinigwyr eraill ledled y byd i nodi ble a phryd dychwelodd yr haint hwn. Canfu ein hymchwil fod Mycoplasma yn absennol i raddau helaeth am dros dair blynedd ac fe wnaeth ailymddangosiad sylweddol mewn llawer o wledydd erbyn diwedd 2023.
“Mae ein hymchwil yn awgrymu bod yr oedi hwn o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19 fod 90% yn effeithiol wrth leihau lledaeniad Mycoplasma yn ystod camau cynnar y pandemig. Mae’r gostyngiad hwn yn nifer Mycoplasma sy’n cylchredeg yn y gymuned, ynghyd â’r gallu gwael i ledaenu o berson i berson, yn helpu i esbonio pam ei bod yn cymryd cymaint o amser i’r heintiau hyn ddychwelyd.”
Prif ganfyddiadau’r adroddiad:
- Er gwaethaf y nifer digynsail o ddarganfyddiadau Mycoplasma yn ystod yr ail-ymddangosiad, canfu’r astudiaeth fod y difrifoldeb cyffredinol a’r nifer o farwolaethau yn parhau i fod yn isel.
- Mewn rhai rhanbarthau, roedd naw o bob deg achos Mycoplasma yn gwrthsefyll llinell gyntaf triniaeth gwrthfiotigau. Er mwyn asesu a oedd patrymau ymwrthedd wedi newid ar ôl ail-ymddangosiad y bacteriwm, archwiliodd y tîm ddata o sawl gwlad.
- Mae’r astudiaeth hon yn tynnu sylw at yr angen am adrodd byd-eang o haint Mycoplasma i ddeall yn well sut mae nifer yr heintiau yn newid dros amser ar draws gwahanol wledydd.
Parhaodd Dr Beeton i ddweud: “Wrth symud ymlaen, rydym yn bwriadu parhau i fonitro nifer yr heintiau ledled y byd. Mae hyn yn hynod bwysig gan y bydd yn ein helpu i rybuddio clinigwyr a gweithwyr meddygol proffesiynol i gynnydd mewn haint a chodi ymwybyddiaeth gan y bydd angen gwrthfiotigau penodol ar yr heintiau bacteriol hyn, nad ydynt yn cael eu rhoi yn rheolaidd ar gyfer heintiau bacteriol nodweddiadol yr ysgyfaint.”
Dywedodd Patrick Meyer Sauteur, Ymgynghorydd mewn Clefydau Heintus Pediatrig ac Arweinydd Grŵp Ymchwil mewn Clefydau Heintus Arbrofol a Chlinigol yn Ysbyty Athrofaol Plant Zurich: “Mae nifer yr achosion o Mycoplasma wedi bod yn hanesyddol ers cyflwyno profion am y pathogen hwn. Dangosodd ein hastudiaeth gyntaf pa mor berthnasol yw’r pathogen hwn ledled y byd. Bydd y rhwydwaith cydweithredol byd-eang hwn yn galluogi gwyliadwriaeth ryngwladol o Mycoplasma ac ymwrthedd gwrthficrobaidd i roi gwybod i glinigwyr am ymddangosiad epidemigau yn y dyfodol.”
Mae’r adroddiad llawn, ‘Global spatiotemporal dynamics of Mycoplasma pneumoniae re-emergence after COVID-19 pandemic restrictions: an epidemiological and transmission modelling study’ bellach ar gael i’w ddarllen yn The Lancet Microbe.