Skip to content

Podlediad Dementia Newydd yn Croesawu Warren Gatland i Brifysgol Metropolitan Caerdydd

31 Ionawr 2025

Croesawodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd Warren Gatland sy’n hyfforddwr Undeb Rygbi Cymru, a Trudi ei wraig, i’r stiwdio radio i recordio podlediad am ddementia.

Ymunodd Mr a Mrs Gatland â’r Athro Julie Williams, sy’n ymchwilydd blaenllaw i glefyd Alzheimer, o Brifysgol Caerdydd, a’r eiriolwr dementia, Justine Pickering ar eu podlediad newydd, In Two Minds. Mae’r podlediad yn rhoi cipolwg unigryw i wrandawyr ar bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth a meithrin dealltwriaeth o’r clefyd.

Yn y bennod gyntaf gwelwyd Warren Gatland a’i wraig yn siarad yn ddidwyll am Terry, tad Trudi, a’i ddiagnosis Alzheimer, a dementia fasgwlaidd a’r heriau emosiynol o wylio ei thad yn newid a’r straen y mae’n ei roi ar y teulu.

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu Warren a Trudi â Dirprwy Ddeon Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, Dr Huw Wiltshire ac Uwch Ddarlithydd Darlledu Chwaraeon, Joe Towns.

Wrth sôn am recordio’r podlediad hon ym Met Caerdydd, dywedodd Joe Towns: “Rydym wedi datblygu stiwdio podlediad wych ar ein Campws yng Nghyncoed, mae ein myfyrwyr a’n staff yn ei defnyddio bob dydd. Ond yn ddiweddar, rydym hefyd wedi dechrau llogi’r gofod allan i gleientiaid allanol. Nid oes cyfleuster arall fel hyn mewn gwirionedd yn unrhyw le yn ne Cymru.

“Pan gysylltodd cwmni sain Bengo Media â ni i ddweud bod podlediad In Two Minds podcast eisiau dod â Warren Gatland a’i wraig Trudi i recordio, ‘ie’ oedd yr ateb ar unwaith. Mae’n bodlediad mor bwerus ac anhygoel gweld yr ochr yma i Gatland, ffigwr sy’n aml yn eithaf gwarchodedig, yn siarad am rywbeth mor bersonol.”

Mae cynnal podlediad sy’n archwilio’n ddwfn i’r wyddoniaeth, cwestiynau a chymhlethdodau sy’n ymwneud â chlefyd Alzheimer a chyflyrau dementia eraill yn enghraifft o eiriolaeth Alzheimer Met Caerdydd. Mae’r Ganolfan dros Ymchwil Gymhwysol mewn Celf a Dylunio Cynhwysol (CARIAD) y Brifysgol yn parhau i ymchwilio i ddyluniad cynhyrchion a gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia datblygedig, gan ddylanwadu ar arferion gofal a chanllawiau ar gyfer y diwydiant dylunio a busnesau ysgogol yn y DU ac yn fyd-eang.

Roedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd hefyd ar rownd gynderfynol dementia Gwobr Longitude, gan sicrhau grant o £80k i ddatblygu ‘MemoryConnect’ (DementiaConnect gynt); ap gyda chymorth gan AI sydd wedi’i gynllunio i rymuso Pobl â Dementia a gwella eu hyder i fyw’n annibynnol.

I archebu stiwdio radio hunanweithredol Met Caerdydd gyda chyfarpar recordio podlediad / sain, cysylltwch â JTowns@cardiffmet.ac.uk.

Mae In Two Minds ar gael i’w ffrydio ar lwyfannau mawr, gan gynnwys Spotify ac Apple Podcasts. Mae In Two Minds yn cael ei gynhyrchu gan Bengo Media.