Skip to content

Met Caerdydd yn Partneru ag Athletau Cymru i Gynyddu’r nifer o Glinigau Anafiadau Chwaraeon

19 Mawrth 2025

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac Athletau Cymru wedi dod ynghyd i wella’r cymorth ar gyfer trin anafiadau chwaraeon, gan ddwyn ynghyd eu harbenigedd er budd y gymuned ehangach, staff a myfyrwyr. Fel rhan o’r cydweithrediad bydd Clinig Anafiadau Chwaraeon presennol Met Caerdydd yn cael ei integreiddio â Chlinig Anafiadau Chwaraeon Athletau Cymru sydd newydd ei sefydlu, gan sicrhau gwasanaethau adsefydlu hygyrch o ansawdd uchel i athletwyr o bob lefel.

Two women relaxing during massage treatments in a peaceful room, inside Cardiff Met's Sports Injury Clinic

Mae'r bartneriaeth yn cryfhau ymrwymiad Met Caerdydd i gefnogi ac integreiddio myfyrwyr o fewn amgylcheddau chwaraeon proffesiynol. Fel rhan o'r fenter, bydd myfyrwyr MSc Adsefydlu Chwaraeon yn cael profiad ymarferol o weithio gyda Chorff Llywodraethu Cenedlaethol, gan wreiddio eu dysgu ymhellach trwy ymgysylltu'n uniongyrchol â digwyddiadau Athletau Cymru a chymorth i athletwyr.

Dywedodd Adam Rattenberry, Ffisiotherapydd Perfformiad Arweiniol a Rheolwr Gwasanaethau i Athletwyr: “Rydym yn falch iawn o lansio ein Clinig Anafiadau Chwaraeon Athletau Cymru mewn partneriaeth â Met Caerdydd, fydd yn cynnig yr un cymorth asesu a rheoli anafiadau o ansawdd uchel i’r gymuned athletau â’n hathletwyr o’r radd flaenaf. Gydag ystod eang o fathau o apwyntiadau ar gael, o ffisiotherapi 1:1 ac apwyntiadau meinwe meddal i asesiadau ac adsefydlu dan arweiniad myfyrwyr, mae rhywbeth at ddant pawb.

“Gyda dros 30 mlynedd o brofiad cyfun mewn chwaraeon elitaidd a lefel uchel, mae ein hymarferwyr yn cynnig y gorau oll o ran asesu ac adsefydlu anafiadau. Rydym yn edrych ymlaen at gyfuno hyn â datblygu’r genhedlaeth nesaf o adsefydlwyr chwaraeon drwy ein clinigau dan arweiniad myfyrwyr.”

Amlygodd Dr Rob Meyers, Prif Arweinydd Rhaglenni Israddedig mewn Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, y manteision sylweddol y mae’r bartneriaeth hon yn ei roi i fyfyrwyr: “Mae’r cydweithrediad hwn ag Athletau Cymru yn rhoi cyfle amhrisiadwy i’n myfyrwyr gael profiad byd go iawn mewn amgylchedd chwaraeon proffesiynol. Mae gallu gweithio’n agos gydag ymarferwyr Athletau Cymru yn y clinig ac mewn digwyddiadau fel rhan o’u dysgu yn ychwanegiad gwych at eu datblygiad academaidd a phroffesiynol. Rydym yn falch o fod yn bartner gydag Athletau Cymru i sicrhau bod ein myfyrwyr yn graddio gyda’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i ragori ym maes adsefydlu chwaraeon.”

Mae'r bartneriaeth hon nid yn unig yn gwella'r cyfleoedd dysgu ymarferol i fyfyrwyr Met Caerdydd ond hefyd yn cryfhau cysylltiad Chwaraeon Met Caerdydd â phartneriaid ar y campws a rhaglenni cymeradwy, gan atgyfnerthu ei henw da fel sefydliad blaenllaw ar gyfer addysg chwaraeon ac arfer cymhwysol.

I gael rhagor o wybodaeth am Glinig Anafiadau Chwaraeon Met Caerdydd a Athletau Cymru, e-bostiwch: sportsinjuryclinic@welshathletics.org.