Met Caerdydd yn lansio rhaglen newydd o gyrsiau byr celf a dylunio
Mae Ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn lansio ystod o gyrsiau byr newydd sy’n digwydd gyda'r nos a’r penwythnos a’n agored i bob gallu, gan roi cyfle i bobl fireinio eu sgiliau mewn stiwdio a gweithleoedd proffesiynol y brifysgol.
O grochenwaith i baentio, lluniadu i feddylfryd dylunio, ffotograffiaeth, gwneud printiau a chyrsiau crefft, mae rhywbeth at ddant pawb, gydag wyth cwrs yn rhedeg yn ystod tymor yr haf.
Gellir archebu’r cyrsiau canlynol nawr:
- Cyflwyniad i Luniadu, dydd Mercher o 30 Ebrill 2025
- Bywluniadu, dydd Mawrth o 29 Ebrill 2025
- Peintio'r Ffigur Dynol, dydd Sadwrn a dydd Sul, 10 a 11 Mai.
- Cyflwyniad i Beintio Tirlun Acrylig, dydd Iau o 1 Mai 2025
- Paentio Bywyd Llonydd – cyfansoddiad a lliw, dydd Sadwrn a dydd Sul, 5 a 6 Gorffennaf 2025
- Gweithdy Llif Creadigol: Portread Mynegiannol Haniaethol Ffynci Acrylig a Chyfryngau Cymysg, dydd Sadwrn a dydd Sul, 3 a 4 Mai
- Torri ac Argraffu Leino, dydd Mawrth o 29 Ebrill 2025
- Lamplenni Stensil wedi’u sgrin-brintio dydd Mercher o 30 Ebrill 2025
Dywedodd Dr Bethan Gordon, Deon yr Ysgol Gelf a Dylunio ym Met Caerdydd: “Mae cyrsiau byr Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn ar ein campws yn Llandaf ac maent wedi’u cynllunio i weddu i bob dysgwr. Does dim ots os ydych chi’n artist neu’n ddylunydd profiadol, yn ystyried dychwelyd i Addysg Uwch a pharatoi eich portffolio, neu’n awyddus i ddysgu sgil newydd – mae rhywbeth at ddant pawb.

Bydd archebion ar gyfer pob cwrs yn cau union wythnos cyn dechrau'r cwrs.
Cynhelir cyrsiau trwy gydol y flwyddyn ar gampws Llandaf Met Caerdydd, gan ddechrau fel arfer bob tymor yr hydref, y gwanwyn a'r haf. I gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio ac i gael y newyddio diweddaraf am ein rhaglen o gyrsiau, e-bostiwch eich manylion cyswllt i coas@cardiffmet.ac.uk.
Gellir archebu lle ar y holl gyrsiau nawr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd.