Mae prentisiaeth gradd wedi'i hariannu'n llawn yn caniatáu i fyfyrwyr hŷn i ddatblygu mewn gyrfa newydd
Mae myfyriwr hŷn ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn dweud na fyddai cychwyn ar brentisiaeth gradd yn ddiweddarach mewn bywyd gyda theulu ifanc i gael cymorth wedi bod yn bosibl heb yr arian a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae Kyle Cuthbert, 37, o Gasnewydd yn ei drydedd flwyddyn ar brentisiaeth gradd BSc Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol ym Met Caerdydd ar hyn o bryd. Rhannodd ei stori yn ystod Wythnos Prentisiaethau Cymru sy’n digwydd rhwng 10 – 16 o Chwefror 2025.
Mae’r prentisiaethau gradd ym Met Caerdydd yn cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o dair blynedd ac mae gweithwyr yn derbyn gradd yn eu dewis ddisgyblaeth.
Dywedodd Kyle: “Roeddwn i wastad wedi bod â diddordeb mewn peirianneg meddalwedd ond fe wnes i syrthio i weithio ym maes manwerthu ar ôl gadael yr ysgol ac yna ymlaen i weithio mewn rolau cyllid am dros ddeng mlynedd. Roeddwn i’n awyddus i wneud rhywbeth gwahanol ac yn edrych ar gyrsiau’r Brifysgol Agored a chyrsiau gradd rhan amser i ddechrau, ond roedden nhw’n rhy ddrud.”
Yn 2022, gwelodd Kyle swydd datblygwr yn codi yng Nghyngor Caerdydd ac er nad oedd ganddo unrhyw gymwysterau ac nad oedd tâl y rôl cystal â’i swydd bresennol ym maes cyllid, penderfynodd wneud cais.
Mae Prentisiaeth Gradd yn cynnig cyfle i brentis astudio ar gyfer eu cymhwyster academaidd wrth weithio’n llawn amser gyda chyflogwr, gan ennill profiad yn y byd go iawn yn eu llwybr gyrfa ddewisol ac ar yr un pryd ennill eu cymhwyster.
Aeth Kyle yn ei blaen i ddweud: “Roedd yn rhaid i mi gymryd toriad cyflog wrth fynd am y rôl yng Nghyngor Caerdydd, roedd hyn yn risg fawr gyda theulu ifanc, ond er mwyn cymryd cam ymlaen yn fy ngyrfa sylweddolais y byddai’n rhaid i mi gymryd gostyngiad cyflog. O fewn mis i weithio yno, cysylltwyd â mi ynglŷn â’r radd brentisiaeth a ariennir yn llawn ym Met Caerdydd – cyn dechrau yn y cyngor, nid oedd prentisiaeth gradd yn rhywbeth yr oeddwn yn ymwybodol ohono.”
Esboniodd nad oedd ganddo hyder yn aml yn y gweithle, ond bellach mae Kyle yn ei chwe mis olaf o’r brentisiaeth gradd ac mae eisoes wedi dangos diddordeb mewn ei ddatblygu yn ei rôl bresennol fel datblygwr. Byddai hyn yn ei weld yn cael ei ddyrchafu’n uwch beiriannydd meddalwedd sy’n dod â mwy o gyfrifoldeb a rheolaeth dros brosiectau.
Ychwanegodd Kyle: “Mae’r cwrs peirianneg meddalwedd cymhwysol wedi rhoi’r cyfle i mi gael profiad ymarferol gyda gwahanol agweddau ar beirianneg meddalwedd yn ogystal â rhoi sylw i fylchau o fewn fy ngwybodaeth.
“Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed a bod allan o addysg cyhyd, roeddwn i’n ansicr sut y byddwn i’n symud ymlaen ar lefel gradd. Er ei bod wedi bod yn heriol, mae llawer o gefnogaeth gan y Brifysgol sy’n deall heriau myfyriwr hŷn. Mae fy narlithwyr bob amser wrth law i roi adborth am y cwrs neu’r aseiniadau os oes ei angen arnaf – yn aml ar benwythnos neu gyda’r nos. A gwelais fod y diwrnodau hyfforddi a’r gweithdai a gynhaliwyd i brentisiaid ar sut i fynd at aseiniad yn arbennig o ddefnyddiol yn y flwyddyn gyntaf.”
Dywedodd Neil Hennessy, Pennaeth y Coleg Agored a Phrentisiaethau Gradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae cynnig prentisiaeth gradd yn brofiad unigryw a gwerthfawr i amrywiaeth o ddysgwyr cyflogeion. Mae’r garfan bwrpasol hon yn amrywio o’r rhai a allai fod â phrofiad sylweddol eisoes mewn cyflogaeth llawn amser heb ennill cymhwyster academaidd i’r rhai sy’n chwilio am lwybr gyrfa newydd, gan gynnwys y rhai sydd wedi gorffen addysg ffurfiol yn ddiweddar ac sy’n chwilio am gyfleoedd i ennill a dysgu. Mae carfan mor amrywiol o brentisiaid ond yn gwella’r profiad dysgu ym Met Caerdydd.”
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar brentisiaethau gradd ym Met Caerdydd yma.