Lansio cwrs LeadHERship i fenywod yng Nghymru
Mae Tîm Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac RBC Brewin Dolphin wedi dod at ei gilydd i gynnig cwrs LeadHERship newydd i fenywod yng Nghymru.
Mae’r rhaglen LeadHERship yn fenter arloesol newydd sydd wedi’i chynllunio i rymuso menywod gyda’r hyder, y sgiliau a’r rhwydweithiau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn busnes a chwaraeon a chael profiad gwerthfawr wrth iddynt ddechrau ar eu taith o ran arweinyddiaeth.
Nod y cwrs, a ddyluniwyd gan Dr Kerry Harris a Dr Sofia Santos o Ganolfan Hyfforddi Chwaraeon Met Caerdydd, yw cysylltu chwaraeon a busnes mewn lleoliad arweinyddiaeth i wella cyfleoedd gyrfa mewn lleoliad rheoli.
Cynrychiolwyr o Dîm Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac RBC Brewin Dolphin yn mynychu lansiad y rhaglen LeadHERship gyda Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, a mynychodd y digwyddiad lansio ar gyfer y rhaglen LeadHERship ar gampws Cyncoed Met Caerdydd ar ddydd Iau 6 Mawrth: “Ni allai lansiad y rhaglen LeadHERship ddod ar adeg fwy cyffrous i chwaraeon merched yng Nghymru wrth i ni edrych ymlaen at gynnal Pencampwriaeth Agored Merched AIG ym Mhorthcawl a chystadlu am y tro cyntaf yn nhwrnament pêl-droed merched Ewro 2025.
“Bydd y bartneriaeth arloesol hon yn creu cyfleoedd gwerthfawr i fenywod ddatblygu eu potensial i arwain ar draws chwaraeon a busnes. Bydd dod â’r sectorau yma ynghyd yn adeiladu cysylltiadau a fydd yn helpu i greu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr benywaidd yng Nghymru.
“Mae’r rhaglen yn ymgorffori ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol a sicrhau fod pob merch yn cael y cyfle i gyrraedd ei photensial llawn, boed hynny yn yr ystafell fwrdd neu ar y cae chwarae.”
Ychwanegodd Belinda Houghton-Jones, o RBC Brewin Dolphin (swyddfa Caerdydd): “Rydym yn gweld mwy a mwy o gyffredinedd rhwng llwyddiant masnachol a chwaraeon, ac yn deall bod pŵer busnes a chwaraeon yn aml yn ategu at ei gilydd.
“Bydd y rhaglen hon yn adeiladu ar y rhinweddau a ddatblygwyd ar y cae ac oddi arno, megis gweithio mewn tîm, gwydnwch a hunangred, gyda’r rhai sy’n angenrheidiol yn ystafell y bwrdd, fel llythrennedd ariannol a llywodraethu.”
Bydd y cwrs yn cael ei arwain dros bedair sesiwn breswyl ymdrochol, gan archwilio tirwedd gymdeithasol arweinyddiaeth, datblygu eich hun ac eraill, creu cyd-destunau ac adeiladu’r gallu i weithredu, a chynllunio ar gyfer y dyfodol a datblygiad parhaus.
Bydd y sesiynau preswyl hefyd yn cynnwys siaradwyr a thrafodaethau panel gan fenywod profiadol ac ysbrydoledig mewn swyddi arweinyddiaeth ym meysydd chwaraeon a busnes.
Yn ogystal, bydd pedair sesiwn ar-lein gan gynnwys sesiwn llythrennedd ariannol gydag RBC Brewin Dolphin.
Dywedodd Prif Weithredwr Tîm Cymru, Rebecca Edwards-Symmons: “Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu arweinwyr benywaidd y dyfodol yng Nghymru. Rydyn ni yn Nhîm Cymru yn ymfalchïo mewn bod yn gynhwysol, a gyda’n gilydd byddwn yn sicrhau bod y cwrs hwn yn adlewyrchu hyn, gan roi cyfle unigryw i bob menyw greu argraff yn eu maes gyrfa a datblygu eu huchelgeisiau arweinyddiaeth.”
Ychwanegodd Laura Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon, Gweithgareddau Corfforol ac Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Rydym wrth ein bodd yn cryfhau ein partneriaeth bresennol gyda Tîm Cymru, gan gefnogi darpar arweinwyr benywaidd ledled Cymru. Bydd y rhaglen LeadHERship yn parhau i wella’r gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud i helpu menywod i lwyddo mewn chwaraeon a gyda RBC Brewin Dolphin ar ein ochr, rydym yn dod â’r gorau o chwaraeon a busnes ynghyd.
“Rydym wedi gweithio gyda Tîm Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar raglen flaenllaw ArcHER Met Caerdydd, gan hyrwyddo menywod ysbrydoledig ar draws y system chwaraeon gyfan gan ddangos ein hymrwymiad i ragoriaeth mewn chwaraeon menywod – trwy gyfranogiad, perfformiad elitaidd, ymchwil arloesol, neu ysgogi newid mewn cymorth ac arweinyddiaeth athletwyr. Edrychwn ymlaen yn awr at adeiladu ar y llwyddiant hwn a chydweithio gyda ymgeiswyr, partneriaid, a siaradwyr gwadd ysbrydoledig i ymhelaethu ar eu taith arweiniol.”
Bydd ceisiadau ar gyfer y cwrs LeadHERship yn agor ddydd Gwener 7 Mawrth trwy wefan Tîm Cymru: teamwales.cymru/leadhership.
Am fwy o wybodaeth neu i drafod y cwrs ymhellach, e-bostiwch nominations@teamwales.cymru neu ewch i teamwales.cymru/leadhership.