Skip to content

Darlithydd Met Caerdydd yn cychwyn ar brosiect ffotograffiaeth i gofio merched a gafodd eu llofruddio

10 Mawrth 2025

Mae’r cynnwys a ganlyn yn cynnwys cyfeiriad at drais yn erbyn menywod, gan gynnwys cyfeiriadau penodol at ddioddefwyr benywladdiad a all fod yn peri gofid i rai.

Wedi’i tharo gan y gwahaniaeth yn sylw’r cyfryngau rhwng achosion o lofruddio menywod, mae Darlithydd Ffotograffiaeth o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cychwyn ar brosiect ymchwil, sy’n cynnwys ymweld a thynnu lluniau o feddai bas lle claddwyd menywod a gafodd eu llofruddio.

Bob blwyddyn i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Jess Phillips AS yn darllen enwau pob menyw yn y DU a laddwyd gan ddynion yn nadl flynyddol Seneddol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, gyda’r data a ddarperir gan y Femicide Census.

Mae Jude Wall, Darlithydd Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn defnyddio araith Jess Phillips i nodi’r safleoedd lle mae menywod wedi’u claddu mewn beddi bas i gipio lluniau ar gyfer ei hymchwil sy’n cydraddoli cynrychiolaeth menywod a laddwyd gan ddynion yn y DU. Mae Jude yn gobeithio y gellir defnyddio’r delweddau hyn fel cofebion i’r dioddefwyr.

Mae’n ofynnol i’r Gweinidog dros Ddiogelu a Thrais yn Erbyn Menywod a Merched ofyn am ganiatâd arbennig i wneud cyfraniad estynedig sy’n fwy na’r amser y caniateir i ASau siarad oherwydd yr amser y mae’n ei gymryd i ddarllen enw pob menyw.

Dywedodd Jude: “Ers cychwyn y prosiect hwn rwyf wedi fy syfrdanu gan faint o bobl sydd ddim yn ymwybodol o nifer y dioddefwyr. Mae dynion a merched wedi bod yn barod iawn i dderbyn fy nelweddau ac eisiau ymgysylltu â’r gwaith. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn caniatáu i sgyrsiau ganolbwyntio ar gamau gweithredu ar gyfer newid, yn hytrach na gweld bai.”

Ers dechrau’r prosiect ffotograffiaeth yn 2020 mae Jude wedi ymweld ag 20 o feddi bas. Tra’n ymweld â’r safleoedd, mae Jude hefyd yn casglu samplau pridd i ddeall beth sy’n digwydd i’r ddaear ar ôl i gyrff merched gael eu claddu.

Dywedodd Jude: “Mae fy ymchwil wedi dangos yr hyn sy’n digwydd pan ddaw’r corff i gysylltiad â’r ddaear am y tro cyntaf, sef bod popeth o amgylch y corff yn marw’n weddol gyflym. Roeddwn i’n meddwl bod hwnnw’n drosiad diddorol iawn am drosglwyddo trawma i’r ddaear. Mae’r ddaear yn marw gyda’r corff. Ar ôl tua chwe mis i flwyddyn, nododd fy ymchwil fod y ddaear lle’r oedd cyrff y merched wedi’i claddu yn gwella ac yn tyfu’n ôl ddwywaith mor gryf.”

Mae ymchwil Jude wedi mynd â hi i’r Cyfleuster Ymchwil Anthropoleg Fforensig yn Texas, labordy ymchwil dadelfeniad dynol awyr agored 26-erw yn Freeman Ranch y Brifysgol Talaith Texas i astudio newidiadau i dirweddau mewn safleoedd claddu. Yma, gallai weld y nodweddion cemegol, ffisegol a biolegol y mae corff yn eu gadael ar y ddaear unwaith y caiff ei dynnu, rhywbeth y mae’n ei alw’n “drosglwyddiad trawma i’r ddaear.”

“Mae’r prosiect ymchwil hwn yn bwysig oherwydd mae angen i sgyrsiau newid. Mae yna lawer o ddata a gwybodaeth am ffemicladdiad ond rwy’n meddwl ei fod yn cael ei golli oherwydd nid yw llawer o bobl yn ymgysylltu â data,” ychwanegodd Jude.

Yn nadl Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Seneddol yn ddiweddar, darllenodd Jess Phillips AS enwau’r 95 o fenywod a laddwyd gan ddynion yn y DU yn 2024. Bydd Jude nawr yn nodi faint o’r llofruddiaethau hyn yr adroddwyd amdanynt gan y cyfryngau cyn parhau â’i hymchwil.