Barn: Newid ac addasu - cefnogi dysgwyr niwroamrywiol yn yr ystafell ddosbarth
Mae Dr Rhiannon Packer yn Uwch Ddarlithydd mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd. Mae hi wedi gweithio ym myd addysg uwch ers 2004 a chyn hynny roedd yn athrawes ysgol uwchradd yn dysgu’r Gymraeg fel ail iaith. Mae diddordebau ymchwil Rhiannon yn cynnwys archwilio profiadau pontio addysgol dysgwyr ar draws ystod o leoliadau, cefnogi dysgwyr niwroamrywiol a dwyieithrwydd.
“Mewn adroddiad diweddar yn y newyddion tynnwyd sylw at yr heriau y mae rhai rhieni yn eu hwynebu wrth aros am bron i bum mlynedd am ddiagnosis o awtistiaeth neu ADHD ar gyfer eu plentyn. Er nad yw hyn yn dderbyniol o bell ffordd, mae'n bwysig cofio nad yw bod yn niwroddargyfeiriol yn anghyffredin. Amcangyfrifir bod 15% o'r boblogaeth yn niwroddargyfeiriol, sy'n golygu bod y ffordd y mae eu hymennydd yn gweithredu, yn dysgu ac yn prosesu gwybodaeth yn wahanol i bobl niwro-nodweddiadol ble y mae eu hymennydd yn gweithredu ac yn prosesu gwybodaeth mewn ffordd y mae cymdeithas yn ei disgwyl.
Mae niwroamrywiaeth yn cyfeirio at y gwahaniaethau naturiol rhwng pobl. Er bod cyflyrau niwroamrywiol, fel awtistiaeth, yn aml yn cael eu camddeall, eu stereoteipio a'u nodweddu mewn ffyrdd negyddol, rydym yn dechrau cael gwell dealltwriaeth o'r amrywiad arferol yn y ffyrdd y mae ein hymenydd yn gweithio. Mae'n bwysig ein bod yn ystyried yr amrywiadau hyn ac yn cydnabod y cyfraniadau gwerthfawr y gall unigolion niwrowahanol eu gwneud.
Gellir gweld niwroamrywiaeth ar sbectrwm, gyda rhai pobl yn llwyddo i weithredu'n dda o fewn cymdeithas, tra bod eraill yn gweld hyn yn fwy heriol, ac yn cael trafferth cymdeithasu a chydweithio ag eraill. Anaml y bydd gan unigolyn un cyflwr niwro-ddargyfeiriol yn unig. Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o bobl â gor-gyffyrddiad, sy'n golygu bod ganddynt gyfuniad o awtistiaeth / ADHD / dyslecsia, ac ati. O ganlyniad, gall fod yn heriol gwneud diagnosis o un cyflwr.
Mae angen inni ystyried pa fanteision sydd wrth roi diagnosis a label ar unigolyn. Mewn rhai achosion, gall alluogi cymorth pellach - ond nid pob tro. Nid yw’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Cymru yn nodi bod angen diagnosis neu label er mwyn i blentyn neu berson ifanc gael darpariaethau dysgu ychwanegol. Y diffiniad o ADY yw bod plentyn neu berson ifanc yn cael 'anhawster dysgu sylweddol fwy na'r mwyafrif o'r plant eraill o'r un oedran'; mae hyn yn golygu bod angen i ddarpariaeth dysgu ychwanegol (DDY) gynnwys darpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy'n ychwanegol at, neu'n wahanol i, adnoddau dysgu a wneir ar gyfer eraill o'r un oedran. Unwaith eto, nid yw hyn yn galw am ddiagnosis, yn hytrach bod darpariaeth yn cael ei gwneud mewn perthynas ag anghenion y plentyn neu’r person ifanc dan sylw.
Os ydym yn ystyried hyn o safbwynt cymdeithasol, yna mae angen inni newid neu addasu’r amgylchedd fel y gallwn gynnwys cymaint o unigolion â phosibl yn amgylchedd y dosbarth prif ffrwd. Mae seicolegwyr addysg yn awgrymu y gall datblygu dull cynhwysol ei gwneud hi'n bosibl i blant niwroddargyfeiriol lwyddo mewn ystafell ddosbarth prif ffrwd. Er y gall hyn fod yn heriol, gall cefnogi athrawon i ddiwallu anghenion plant niwroamrywiol yn yr ystafell ddosbarth chwalu rhwystrau i ddysgu.
Gall creu dull dylunio cyffredinol ar gyfer dysgu mewn ystafelloedd dosbarth olygu addasu’r ffordd y caiff gwersi eu haddysgu; er enghraifft, rhannu gweithgareddau yn ddarnau byrrach, cyflwyno cynnwys mewn ffordd aml-foddol, a darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth mewn gwahanol ffyrdd. Mae hefyd yn golygu ymgorffori mannau ar gyfer gweithgareddau grŵp megis ardaloedd tawel a chlybiau, offer sylfaenol fel cadeiriau siglo, clustffonau canslo sŵn, a chardiau amser allan mewn ysgolion. Dim ond os bydd addasiadau ar gael i bob dysgwr sydd ei angen y bydd dull dylunio cyffredinol ar gyfer dysgu yn llwyddo.
Mae'n bwysig bod athrawon yn gwybod am gryfderau'r dysgwyr a'r hyn y maent yn ei gael yn heriol neu'r hyn a allai fod rhwystr i ddealltwriaeth. Mae gweithio gyda rhieni yn hanfodol, gan ei fod yn helpu athrawon i gael dealltwriaeth ddyfnach o anghenion plentyn ac yn sicrhau dull cydlynol o gefnogi eu datblygiad.
Er mwyn datblygu a gwella ymhellach eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o unigolion sy'n niwroddargyfeiriol, ac ADY yn ehangach, rhaid sicrhau mynediad rheolaidd at gymorth ac arweiniad ar athrawon. Mae angen gwreiddio hyfforddiant o fewn rhaglenni TAR gyda datblygiad proffesiynol dilynol fel y gall athrawon rannu arfer gorau gyda'i gilydd.”
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad gyda Dr Rhiannon Packer, cysylltwch â press@cardiffmet.ac.uk neu ffoniwch 029 2041 6362.