Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi yng nghwmni deillio Met Caerdydd
Mae cwmni deillio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi sicrhau buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru i adeiladu math newydd pwerus o dechnoleg delweddu a allai chwyldroi'r ffordd y mae pobl yn gweld ac yn gwneud delweddau.
Bydd y bartneriaeth rhwng Fovo Technology Ltd. (Fovotec) a Banc Datblygu Cymru – prif ddarparwr cronfeydd buddsoddi ac arbenigedd masnacheiddio - yn galluogi datblygiad Dynamic Projection.
Yn seiliedig ar ymchwil gan artistiaid a gwyddonwyr i sut mae golwg dynol yn gweithio, mae 'Dynamic Projection' yn caniatáu i dechnoleg gynhyrchu delweddau sy'n agosach at sut mae bodau dynol yn 'gweld'.
Hyd yn hyn mae Fovotec, a sefydlwyd yn 2017 gan academyddion rhyngddisgyblaethol ym Met Caerdydd, wedi sicrhau 15 o batentau rhyngwladol i ddiogelu ei broses newydd, gyda sawl un arall yn yr arfaeth.
Mae'r ystod o gymwysiadau posibl yn helaeth ac yn cynnwys gemau cyfrifiadurol, camerâu ffôn clyfar, sinematograffi, delweddu meddygol, diogelwch, amddiffyn a chyfathrebu.
Dywedodd Dr Robert Pepperell, Cyd-sylfaenydd Fovotec ac Athro Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae wedi cymryd blynyddoedd lawer i ddatrys y broblem o sut i wneud i ddelweddau ongl eang edrych yn naturiol mewn cyfryngau delweddu.
“Mae’r buddsoddiad newydd hwn gan Fanc Datblygu Cymru yn creu cyfle anhygoel o gyffrous i gyflwyno datrysiad Fovotec i gwmnïau technoleg blaenllaw ledled y byd. Nid ydym yn meddwl y bydd yn hir cyn i ni weld Dynamic Projection Fovotec yn ymddangos mewn teitlau gemau cyfrifiadurol a thechnolegau defnyddwyr eraill.”
Mae Banc Datblygu Cymru a Fovotec bellach yn archwilio cyfleoedd gyda chwmnïau technoleg mawr i integreiddio offer Dynamic Projection Fovotec i mewn i gynhyrchion brand blaenllaw.
Dywedodd Cadeirydd Fovotec, Frank Holmes: “Rydym wedi gweld esblygiad y ddyfais patent hon o’r syniad gwreiddiol ac rydym yn hynod gyffrous am yr ystod o gyfleoedd sydd ar gael i’w chyflwyno i’r farchnad, ac mae’r rhai o’r rhain ar fin digwydd.”
Ychwanegodd yr Athro Sheldon Hanton, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae Met Caerdydd ar flaen y gad o ran delweddu arloesol yn fyd-eang a bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan Fanc Datblygu Cymru yn galluogi ein hacademyddion i barhau i ddatblygu’r dechnoleg arloesol hon.”
Dywedodd Adam Ramzaan, Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol gyda Banc Datblygu Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn cefnogi Fovotec ar y cam cyffrous hwn o’u taith. Mae gan eu gwaith arloesol ym maes delweddu sy’n canolbwyntio ar bobl a thechnoleg rendro amser real y potensial i drawsnewid diwydiannau. Mae'r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu ein cred yng ngweledigaeth y tîm, rhagoriaeth dechnegol, a photensial masnachol."