Skip to content

Rôl prifysgolion wrth wella iechyd, cyfoeth a llesiant cenedlaethau’r dyfodol

13 Mehefin 2024

Yr Athro Sheldon Hanton, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Arloesi, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Cysylltir prifysgolion yn aml ag arwahanrwydd breintiedig ac ymwahanu oddi wrth y ‘byd go iawn’. Tyrau ifori o bosib.

Yn wir, rydym yn rhan hollbwysig o wead ein cenedl. Rydym yn gyflogwyr mawr yn ein trefi a’n dinasoedd. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n gilydd, y sector cyhoeddus, diwydiant ac eraill, gan ychwanegu £5bn at economi Cymru a chefnogi 61,000 o swyddi.

Ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, llofnododd prifysgolion a cholegau addysg bellach gytundeb yn ddiweddar i wella llesiant economaidd y rhanbarth. Mae’n adeiladu ar gydweithrediadau sydd eisoes wedi sicrhau bron i £100m ar gyfer de-ddwyrain Cymru.

Dyna pam mae gan bob prifysgol ei chyfuniad ei hun o arbenigedd ymchwil ac arloesi. Pan fydd gan bob un y lle i ddatblygu asedau pwrpasol, gall y grŵp gydlynu i rym rhanbarthol gyda chryfder ac ehangder.

Ond rhaid i gyfrifoldeb cymdeithasol fod yn sail i’w gwaith hwn. Nid oes llawer o ddefnydd i’n hymchwil gael effaith sy’n fyrhoedlog neu sydd am osod cost anghynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol.

Mae adeiladu ein Strategaeth 2030 ar gyfer ymchwil wedi cynnwys mapio ein cryfderau yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Wedi’u datblygu yn 2015, rhain yn fframwaith yw’r rhain ar gyfer sicrhau dulliau heddychlon a llewyrchus o barhau â datblygiad pobl a’r blaned. Mae nifer o brifysgolion wedi eu mabwysiadu fel modd o strategaethu, gan ganolbwyntio a dangos tystiolaeth o’u cyfraniadau cymdeithasol. Canfuom fod 95% o’n cyflwyniad REF2021 yn cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, yn enwedig ‘Iechyd a Llesiant Da’, ‘Addysg o Ansawdd’ a ‘Diwydiant, Arloesedd, a Seilwaith’. Fel prifysgol yng Nghymru, mae alinio ein hallbwn ymchwil yn y modd hwn hefyd wedi ein galluogi i gyfrannu at gyflawni ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ Cymru sy’n arwain y byd. Mae angen i ni sicrhau bod ein hymchwil yn cefnogi nodau’r Ddeddf: Gwneud Cymru yn fwy llewyrchus, gwydn, iach a chyfartal. Gwella cydlyniant cymunedol a bywiogrwydd ein diwylliant a’n hiaith. I barhau i fod yn gyfrifol yn fyd-eang.

Sut olwg sydd ar ein cyfraniadau a pham eu bod yn bwysig? Dyma rai enghreifftiau:

NDC 3 y Cenhedloedd Unedig: Iechyd a Llesiant Da

Mae ein hymchwil gwyddor iechyd wedi cynnwys gwaith ar atal strôc, iechyd y galon a dylunio pecynnau trawma rhad ar gyfer Affrica Is-Sahara, yn ogystal â mentrau sgrinio clwy’r traed a’r retina yng Nghymru a Mauritius. Datblygodd ymchwilwyr Celf a Dylunio HUG™, dyfais gysur amlsynhwyraidd y profwyd yn glinigol ei bod yn helpu pobl â dementia datblygedig, ac sydd bellach ar gael trwy bresgripsiwn y GIG.

NDC 4 y Cenhedloedd Unedig: Addysg o Ansawdd

Mae ein hymchwilwyr addysgegol wedi gwella’r defnydd o dechnoleg wrth addysgu ieithoedd modern, gan wella arfer dros 9,300 o addysgwyr ac wedi bod o fudd i 50,000 o fyfyrwyr yn rhyngwladol. Rydym wedi bod yn sail i uwchsgilio dros 1,000 o athrawon sy’n datblygu’r Cwricwlwm newydd i Gymru, gan effeithio ar brofiad dysgu bron i 15,000 o ddisgyblion Cymru.

NDC 9 y Cenhedloedd Unedig: Diwydiant, Arloesedd a Seilwaith

Mae ein Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn cefnogi cannoedd o gwmnïau bwyd yng Nghymru, gan ddarparu £348,000,000 ychwanegol, 1,000 o swyddi a 1,700 o gynhyrchion bwyd newydd i economi Cymru. Mae’r Ganolfan Arweinyddiaeth a Menter Greadigol wedi cefnogi twf busnes o dros £155,000,000 ar draws 900 o fusnesau, gan arbed neu greu dros 2,000 o swyddi.

Mae PDR, ein canolfan ymchwil ac arloesi masnachol, wedi’i rhestru fel yr ymgynghoriaeth ddylunio orau yn y DU ym Mynegai iF World Design Guide ers 2017. Mae wedi helpu mwy na 1,000 o gwmnïau i gynyddu eu refeniw rhagamcanol cyfunol o dros £1 biliwn. Mae ei hymchwil hefyd wedi bod yn sail i saith offeryn polisi mewn chwe gwlad, gan ddylanwadu ar €358,000,000 o ddarpariaeth cronfeydd strwythurol a buddsoddiad uniongyrchol gan y llywodraeth o dros €14,000,000 i fwy na 2,600 o gwmnïau Ewropeaidd.

Tyrau ifori? Dydw i ddim yn credu bod hynny’n wir.