Prifysgol Met Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr yn ennill gwobr iechyd meddwl a lles
Mae Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ennill y wobr Effaith Eithriadol mewn Addysg yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Lles Cymru 2024.
Mae’r gwobrau’n gwobrwyo ac yn cydnabod unigolion a chwmnïau sy’n mynd y tu hwnt i hynny i roi lles pobl eraill yn gyntaf. Cafodd Met Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd (UM) y categori Effaith Eithriadol mewn Addysg ar y cyd am eu gwaith cydweithredol ar leihau niwed.
Dan Flaherty, Llywydd Myfyrwyr Prifysgol Met Caerdydd a gasglodd y wobr yng Ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd.
Meddai Dan: “Mae’r gydnabyddiaeth genedlaethol hon am ein gwaith partneriaeth gyda’r Brifysgol yn adlewyrchu ein hymrwymiad fel Undeb Myfyrwyr i gefnogi lles ein haelodau. Mae’r wobr yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein staff a’n myfyrwyr, sy’n ymdrechu i wneud Met Caerdydd yn lle y gall pawb ffynnu.”
Derbyniodd UM Met Caerdydd a Phrifysgol Met Caerdydd y Wobr Effaith Eithriadol am eu gwaith ar leihau niwed a’r gefnogaeth a’r addysg a ddarperir i fyfyrwyr ar yr effeithiau a’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau ac alcohol.
Dywedodd Neil Davies, Pennaeth Lles Myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae’r wobr hon yn cydnabod y gwaith cydweithredol y mae’r Brifysgol a’r Undeb Myfyrwyr wedi bod yn ei wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf i flaenoriaethu iechyd meddwl a lles a sicrhau amgylchedd cefnogol i’r holl fyfyrwyr a staff.
“Wrth i Met Caerdydd barhau i yrru lles myfyrwyr ymlaen, mae’r gydnabyddiaeth ddeuol hon yn gam sylweddol ymlaen i greu profiad prifysgol iachach a mwy cefnogol i bawb.”
Mae rhagor o wybodaeth am Wobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru 2024 ar gael ar y dudalen we.