Myfyrwyr Met Caerdydd yn dathlu graddio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
Yr wythnos hon, bydd miloedd o fyfyrwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn graddio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Bydd dros fyfyrwyr 3,000 o dros 90 o wahanol wledydd yn mynychu Seremonïau Graddio mis Gorffennaf sy’n cael eu cynnal o ddydd Llun 15 Gorffennaf tan ddydd Iau 18 Gorffennaf.
Dywedodd Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Met Caerdydd, yr Athro Rachael Langford: “Wythnos raddio yw un o uchafbwyntiau y flwyddyn academaidd. Mae’r achlysur arwyddocaol hwn yn gyfle i ni groesawu myfyrwyr, a’u teuluoedd, ffrindiau a’u cefnogwyr sydd wedi bod yn eu cefnogi drwy gydol eu hastudiaethau i ddathlu llwyddiannau pwysig ein graddedigion.
“Mae holl gymuned y Brifysgol yn estyn ein llongyfarchiadau mawr i bawb sy’n graddio yn ein seremonïau ym mis Gorffennaf. Mae eich graddio yn benllaw blynyddoedd o waith caled, ac rydym i gyd mor falch ohonoch chi. Rydym yn dymuno’r gorau i chi wrth i chi gychwyn ar y bennod nesaf gyffrous o’ch bywydau a dod yn aelod o gymuned fywiog cyn-fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd.”
Mae Seremonïau Graddio Met Caerdydd ym mis Gorffennaf yn gweld myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o’r DU a thramor, ac o bob un o bum Ysgol academaidd y Brifysgol (Ysgol Gelf a Dylunio, Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol, Ysgol Reoli, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd, a’r Ysgol Dechnolegau) yn graddio gyda graddau a dyfarniadau o’r 299 o raglenni astudio israddedig ac ôl-raddedig y Brifysgol.
Mae rhagor o wybodaeth am Wythnos Raddio ar gael ar wefan Met Caerdydd.