Skip to content

Myfyriwr Met Caerdydd yn cael ei ddewis i ddyfarnu ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2024 i Ferched

13 Chwefror 2024

Mae myfyriwr rheolaeth chwaraeon o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael ei ddewis fel dyfarnwr cynorthwyol ym Mhencampwriaethau Chwe Gwlad y Merched 2024.

Bydd Amber Stamp-Dunstan, 22, o Gas-gwent, yn mynd i’r Eidal ar gyfer eu gêm yn erbyn yr Alban ar 20 Ebrill ar ôl i World Rugby ei dewis fel un o swyddogion y gêm.

Mae gan y fyfyrwraig ei mam-gu i ddiolch am gychwyn ei gyrfa yn dyfarnu ar ôl ei chynnig am gwrs rhad ac am ddim gan Undeb Rygbi Cymru yn benodol ar gyfer merched yn 2019, ar ôl i Amber ddioddef anafiadau lluosog i’w hysgwydd a gorfod rhoi’r gorau i chwarae, rhywbeth yr oedd wedi bod yn ei wneud ers yn 6 oed.

Mae Amber wedi dyfarnu mewn gemau merched dan 15 a dan 18, cyn symud ymlaen i gemau merched hŷn. Yna fe greodd Amber hanes yn gynharach y tymor hwn pan ddaeth hi, ynghyd â dyfarnwr benywaidd arall, y merched cyntaf i ddyfarnu ym Mhencampwriaeth Admiral URC i ddynion.

Dywedodd Amber: “Mae bod yn ddyfarnwr yn cymryd llawer o waith caled ond mae’n gwbl werth bod yn rhan o’r gêm. Rydw i wedi cael cymaint o brofiadau anhygoel o gymryd rhan mewn dyfarnu. Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd, wedi teithio ar draws y byd ac wedi rhoi fy hun allan o fy man cyfforddus. Mae wedi rhoi cymaint o brofiadau bywyd gwych i mi ac yn bendant wedi lleddfu ergyd methu â chwarae.”

Mae Amber yn ei hail flwyddyn yn astudio rheolaeth chwaraeon ym Met Caerdydd a dywedodd fod y staff academaidd wedi bod yn ei chefnogi i ddilyn ei gyrfa ddyfarnu.

Parhaodd hi: “Mae dyfarnu yn ymrwymiad enfawr bob wythnos gyda mynychu gemau, hyfforddi, a gwylio gemau yn ôl i’w dadansoddi. Ond mae fy narlithwyr ym Met Caerdydd wedi bod yn wirioneddol ddeallus a chefnogol, gan ganiatáu i mi gydbwyso fy astudiaethau a’r angerdd hwn y tu allan i’r brifysgol. Mae dyfarnu a’r cwrs rheolaeth chwaraeon yn ategu ei gilydd yn dda iawn ac rwy’n defnyddio llawer o sgiliau trosglwyddadwy rhwng y ddau.”

Dywedodd Katie Thirlaway, Deon Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Met Caerdydd: “Rydym yn hynod falch o Amber a’i phenderfyniad i ddilyn ei hangerdd dyfarnu. Mae hwn yn gyfle anhygoel o gyffrous i deithio i’r Eidal a pharhau i ddatblygu ei hun fel swyddog yn y gêm.

“Ym Met Caerdydd mae gennym lawer o fyfyrwyr sy’n athletwyr a hyfforddwyr sy’n defnyddio eu gweithgareddau allgyrsiol i gefnogi eu cwrs gradd, ac i’r gwrthwyneb, i ddatblygu eu hunain a’u hastudiaethau – mae Amber yn enghraifft berffaith o hyn. Dymunwn bob lwc iddi yn yr Eidal.”

Mae Amber yn gobeithio y bydd hi’n gallu parhau â’i rhan mewn dyfarnu gemau am beth amser i ddod wrth i’w gwybodaeth a’i hyder mewn dyfarnu dyfu. Wrth annog merched eraill i gymryd rhan mewn dyfarnu, dywedodd Amber: “Byddwn i’n dweud i fynd amdani. Fyddwch chi byth yn gwybod a allai fod yn addas i chi nes i chi roi cynnig arni, ac mae’n ffordd wych o gymryd rhan yn y gêm os na allwch chi chwarae o reidrwydd.”