Met Caerdydd yw’r dringwr uchaf yng Nghymru yn y Good Uni Guide
Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw’r dringwr uchaf yng Nghymru yn The Times & Sunday Times Good University Guide 2025, ar ôl cyrraedd ei safle gorau yn y tabl cynghrair mawreddog hwn ers 2006.
Mae Met Caerdydd wedi neidio 12 lle i safle 66, sy’n cydnabod taith barhaus y Brifysgol i wella yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a’i hymrwymiad cryf i gynaliadwyedd amgylcheddol.
Mae tablau’r The Times & Sunday Times Good University Guide 2025, yn rhoi’r wybodaeth gywir i ddarpar fyfyrwyr a’u teuluoedd i wneud dewis gwybodus am eu haddysg uwch, gan werthuso ystod o fesurau sy’n cynnwys profiad y myfyrwyr, ansawdd yr addysgu a pherfformiad ymchwil.
Eleni, mae’r Canllaw wedi ychwanegu metrig cynaliadwyedd gan People & Planet ac wedi cynyddu pwysiad y mesur rhagolygon graddedigion.
Dywedodd Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yr Athro Rachael Langford: “Mae’n braf gweld Met Caerdydd yn parhau i ddringo yn y Times & Sunday Times Good University Guide, yn enwedig gan fod y tabl cynghrair hwn yn rhoi cymaint o bwyslais ar weithgareddau a mentrau cynaliadwyedd.
“Rydym yn falch o fod ymhlith y 10 prifysgol orau yn y DU yng Nghynghrair Prifysgolion People & Planet, ac mae ein hymrwymiad i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a’n cymunedau wrth wraidd popeth a wnawn.
“Mae’n arbennig o braf gweld ein sgoriau yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn cael effaith ar y tablau cynghrair, gan ei fod yn adlewyrchu ymroddiad ein staff i ddarparu profiad myfyrwyr o’r ansawdd uchaf ac yn ysgogi cyrhaeddiad.”
Cafwyd rhai cyflawniadau nodedig ar gyfer meysydd pwnc a rhaglenni unigol yn y Good Uni Guide, gan gynnwys:
- Celf a Dylunio yn neidio 10 lle i safle 24 yn gyffredinol, yn safle 13 yn y DU am ymchwil ac yn safle 19 am ragolygon graddedigion.
- Mae lletygarwch yn parhau i fod ymhlith y 20 uchaf yn y DU, ac yn cadw safle 16, ac ymhlith y 10 uchaf am ymchwil ac yn safle 14 o ran rhagolygon graddedigion.
- Mae Gwyddor Chwaraeon yn safle 22 yn y DU, i fyny un lle eleni.