Met Caerdydd yn lansio rhaglen newydd o gyrsiau byr celf a dylunio
Mae Ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn lansio ystod o gyrsiau byr newydd, sy’n digwydd gyda'r nos a’r penwythnos, a’n agored i bob gallu, gan roi cyfle i bobl fireinio eu sgiliau mewn stiwdio a gweithleoedd proffesiynol y brifysgol.
O grochenwaith i baentio, llunio i feddwl dylunio, ffotograffiaeth, gwneud printiau a chyrsiau crefft, mae cyfanswm o 10 cwrs yn cael eu cynnal yn ystod tymor yr Hydref. Mae'r cyrsiau'n addas ar gyfer dechreuwyr gwbl newydd yn ogystal ag artistiaid a dylunwyr o bob gallu.
Mae'r cyrsiau canlynol bellach ar gael ar gyfer tymor yr Hydref:
- Cyflwyniad i Luniadu, Dydd Mercher o 2 Hydref 2024
- Bywluniadu, Dydd Mawrth o 1 Hydref 2024
- Dwdlan yn Hawdd – Cwrs Ymwybyddiaeth Ofalgar Niwrograffig Creadigol, dydd Mercher o 2 Hydref 2024
- Peintio'r Ffigur Dynol, Dydd Sadwrn 19eg a Dydd Sul 20 Hydref 2024
- Cyflwyniad i Ddyfrliw, Dydd Llun o 30 Medi 2024
- Llif Creadigol – gydag Acrylig, Cyfryngwyr a Gludwaith, Dydd Iau o 3 Hydref 2024
- Gwella Eich Ffotograffiaeth – Y Pethau Sylfaenol, Dydd Sadwrn 5ed Hydref 2024
- Gwneud Printiau Colograff, Dydd Llun o 30 Medi 2024
- Gwneud Printiau Torlun Leino Dull Lleihau, Dydd Mawrth o 1 Hydref 2024
- Gwnïo Eich Dillad Eich Hun – Gwneud Dilledyn, Dydd Llun o 30 Medi 2024
Dywedodd Dr Bethan Gordon, Deon yr Ysgol Gelf a Dylunio ym Met Caerdydd: “Mae cyrsiau byr Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn ar ein campws yn Llandaf ac maent wedi'u cynllunio i weddu i bob dysgwr. Does dim ots os ydych chi'n artist neu ddylunydd profiadol, yn ystyried dychwelyd i Addysg Uwch a pharatoi eich portffolio, neu'n awyddus i ddysgu sgil newydd - mae rhywbeth at ddant pawb."
“Bydd unrhyw un sy'n cymryd rhan ar y cyrsiau'n cael cyfle i ddysgu o’n tiwtoriaid profiadol, gan weithio yn rhai o’n hardaloedd stiwdio ardderchog sydd ar gael yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, ar y cyd â dysgwyr sydd â’r un meddylfryd”.
Mae'r holl gyrsiau ar gael i archebu nawr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we Prifysgol Metropolitan Caerdydd.