Met Caerdydd yn lansio Canolfan Ymchwil Lleferydd, Clyw a Chyfathrebu
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi lansio canolfan ymchwil newydd yn swyddogol yr wythnos hon a fydd yn arbenigo mewn ymchwil ar gyfer lleferydd, clyw a chyfathrebu.
Mae’r Ganolfan Lleferydd, Clyw a Chyfathrebu yn un o saith canolfan ymchwil yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, sy’n dwyn ynghyd arbenigedd mewn tri phrif faes ymchwil, gan gynnwys ymchwil therapi iaith a lleferydd glinigol, clyw iach a nam ar y clyw a datblygu dwyieithog ac amlieithog. Mae’r ymchwil lleferydd ac iaith glinigol yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag Uned Ymchwil Therapi Iaith a Lleferydd Bryste (BSLTRU).
Mae’r Ganolfan Lleferydd, Clyw a Chyfathrebu wedi derbyn grantiau gan nifer o gyrff ariannu, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), yr NIH (UDA) a’r Academi Prydeinig/Ymddiriedaeth Leverhulme, ac mae llawer o’i waith yn cynnwys cydweithio cenedlaethol a rhyngwladol, yn enwedig gyda phrifysgolion yn Ewrop, UDA, Tsieina, Japan ac Awstralia.
Mynychodd yr Athro Rachael Langford, Is-Ganghellor a Llywydd y digwyddiad lansio: “Mae ymchwil y Ganolfan Lleferydd, Clyw a Chyfathrebu yn cael ei chymhwyso’n glinigol iawn a’i nod yw gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddefnyddwyr gwasanaeth, gan sicrhau bod y gwasanaethau y maent yn derbyn yn effeithiol, effeithlon ac yn cael eu llywio gan dystiolaeth o ymchwil o ansawdd uchel.”
Canmolodd yr Athro Katie Thirlaway, Deon Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd lwyddiant y ganolfan am ei chyfraniad i bortffolio ymchwil y Brifysgol a’i gweithgareddau o amgylch datblygiad gyrfa ymchwilwyr ar bob lefel.
Dywedodd yr Athro Thirlaway: “Rwy’n falch iawn o weld y ganolfan yn ffynnu ac yn mabwysiadu’r agwedd ‘gallu gwneud’. Mae wedi creu portffolio trawiadol o brosiectau, ac edrychaf ymlaen at weld yr effaith a’r llwyddiant yn datblygu dros amser.”
Am fwy o wybodaeth am y Ganolfan Ymchwil Lleferydd, Clyw a Chyfathrebu a’i weithgareddau, a wnewch chi gysylltu â Phennaeth y Ganolfan, Dr Robert Mayr rmayr@cardiffmet.ac.uk.