Skip to content

Liam Mackay o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn ennill Gwobr Arwr Tawel Chwaraeon BBC Cymru Wales

13 Rhagfyr 2024

Liam Mackay o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn ennill Gwobr Arwr Tawel Chwaraeon BBC Cymru Wales

Mae Liam Mackay, Cydlynydd Chwaraeon Cyfiawnder Ieuenctid ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, wedi ennill Gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC 2024. Mae’r wobr fawreddog hon yn dathlu ei gyfraniadau rhagorol i chwaraeon llawr gwlad ac i lesiant y gymuned.

Mae Liam yn arwain prosiect ‘Camu i Chwaraeon’ Chwaraeon Met Caerdydd, partneriaeth arloesol gydag Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru. Mae’r rhaglen hon yn defnyddio grym chwaraeon i fynd i’r afael â throseddau ieuenctid, gan gynnig ymyriadau cynnar i leihau troseddu a hyrwyddo dyfodol cadarnhaol.

Trwy feithrin hyder a chymhelliant, mae gwaith Liam yng Nghaerau a Threlái drwy’r prosiect yn grymuso pobl ifanc i oresgyn heriau a datgloi eu potensial. Mae Prifysgol Ball State yn yr UDA wedi creu rhaglen ddogfen 15 munud mewn partneriaeth â myfyrwyr Darlledu Met Caerdydd am waith Liam.

Cafodd Liam ei enwebu gan aelodau cymuned Caerau a Threlái. Sefydlodd Glwb Rygbi i Blant Caerau a Threlái yn 2018 ac, o dan ei arweinyddiaeth, mae’r clwb bellach yn cefnogi dros 200 o blant ac oedolion yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Mae ei ethos “Mwy na Rygbi” yn blaenoriaethu ymgysylltu â’r gymuned a llesiant chwaraewyr, sy’n ymestyn y tu hwnt i’r cae chwarae. Trwy bartneriaethau â banciau bwyd lleol, mae’r clwb yn sicrhau bod plant yn cael cyfle i fwyta brecwast ac yn darparu cyfleoedd rygbi am ddim gyda mentrau fel banc esgidiau chwarae.

Wrth fyfyrio ar ei wobr, dywedodd Liam: “Mae’n anrhydedd mawr derbyn y wobr hon gan wybod faint o waith caled sy’n cael ei wneud yn y miloedd o glybiau, prosiectau a grwpiau dan arweiniad gwirfoddolwyr ledled Cymru.

“Yn wir, bu’n ymdrech tîm, ac mae’r wobr hon ar gyfer fy holl ffrindiau a chyd-wirfoddolwyr yn Nhrelái. Fel cymundod, rydym yn anelu at sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael yr un chwarae teg ac yn cael eu trin yn gyfartal â gweddill dinas Caerdydd.

“Mae chwaraeon yn rhoi un o’r unig gyfleoedd i ni ddarparu hynny bob dydd a phob wythnos, ond mae ein strategaeth #MwynaRygbi yn darparu cyfleoedd cyfartal i blant gyflawni eu potensial a byw bywydau cadarnhaol.”

Llongyfarchodd Ben O’Connell, Cyfarwyddwr Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Liam ar ei gyflawniad: “Rydym yn hynod falch o Liam a’r gydnabyddiaeth haeddiannol y mae wedi’i chael trwy Wobr Arwr Tawel Chwaraeon BBC Cymru Wales.

“Mae ei ymroddiad i ddefnyddio chwaraeon fel offeryn ar gyfer newid cymdeithasol yn wirioneddol ysbrydoledig, ac mae ei waith gyda’r prosiect Camu i Chwaraeon a Chlwb Rygbi Plant Caerau a Threlái wedi trawsnewid bywydau dirifedi.

“Mae Liam yn ymgorffori gwerthoedd Chwaraeon Met Caerdydd, sef i ddefnyddio grym chwaraeon i uno cymunedau, grymuso unigolion, a chreu newid cadarnhaol parhaol. Mae’r wobr hon yn dyst i’w waith caled, ei angerdd a’i ymrwymiad diwyro i wneud gwahaniaeth.”

Daw cydnabyddiaeth Liam fel un o 15 enillydd rhanbarthol Gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2024 y BBC. Mae ei stori, ochr yn ochr ag eraill, yn arddangos y rôl hanfodol y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae mewn chwaraeon llawr gwlad ledled y DU. Bydd y prif enillydd yn cael ei ddatgelu yn ystod seremoni Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC 2024 ddydd Mawrth, 17 Rhagfyr, yn fyw ar BBC One ac iPlayer.

Dywedodd Alex Kay-Jelski, Cyfarwyddwr Chwaraeon y BBC : “Mae’r BBC yn falch o ddathlu’r gwirfoddolwyr anhygoel sy’n gwneud chwaraeon llawr gwlad yn bosibl drwy greu cyfleoedd a dod â chymunedau ynghyd. Mae eu hangerdd a’u hymroddiad wrth galon chwaraeon, ac rydym yn falch o dynnu sylw at eu gwaith anhygoel trwy wobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y BBC.”