Skip to content

Lansio Prentisiaeth Unigryw yng Nghymru i Ddatblygu’r Genhedlaeth Nesaf o Ddadansoddwyr o Fri

22 Mai 2024

Bydd prentisiaeth gradd newydd arloesol – y cyntaf o’i fath yn y DU – yn rhoi’r cyfle i bobl ledled Cymru ddatblygu’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnynt i ddod yn ddadansoddwr data.

Bydd y rhaglen tair blynedd, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth rhwng y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyflw i gyfranogwyr ennill cyflog wrth ddysgu, gan gyfuno profiad gwaith ymarferol yn y SYG ag astudiaethau academaidd bob wythnos.

Ar ddiwedd y brentisiaeth bydd y cyfranogwyr llwyddiannus wedi ennill gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth mewn Data Cymhwysol, Dadansoddi Ystadegol ac Economaidd.

Mae datblygu sgiliau dadansoddi data yn flaenoriaeth i’r SYG, sy’n cyflogi bron i 3,000 o bobl yng Nghymru ac sydd â’i phencadlys yng Nghasnewydd.

Wrth lansio Rhaglen Prentisiaethau Cymru mewn digwyddiad a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar 22 Mai, dywedodd Darren Morgan, Arweinydd Datblygu yn y SYG: “Mae datblygu’r sylfaen sgiliau dadansoddol yma yng Nghymru yn hanfodol ar gyfer y dyfodol. Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o greu’r brentisiaeth hon. Mae’n wirioneddol unigryw, sy’n dwyn ynghyd elfennau o ystadegau, economeg, gwyddor data, dadansoddi, a hyd yn oed codio. Nid yw’n rhywbeth sydd ar gael yn unman arall.

“Wrth ddylunio’r rhaglen fe wnaethom edrych ar yr hyn sydd ei angen ar gyflogwyr ar hyn o bryd, a thrwy ddwyn ynghyd yr holl sgiliau dymunol hyn mewn un brentisiaeth, dyma’r holl hyfforddiant sydd ei angen ar bobl i ddod yn ddadansoddwr ‘o fri’. Bydd yn eu rhoi mewn sefyllfa dda i gael swydd, mewn maes gwaith y mae galw mawr amdano.”

Yn ystod eu hamser yn y SYG bydd prentisiaid yn dal ddadansoddi a allai eu gweld yn ymwneud â chynhyrchu ystadegol proffil uchel, ymchwil ddadansoddol, datblygu a thrawsnewid ystadegol.

Yn ogystal â rhoi’r cyfle i weithwyr data proffesiynol presennol i uwchsgilio a datblygu eu gyrfaoedd, mae Darren – a weithiodd ei ffordd i fyny o swydd weinyddol i fod yn Gyfarwyddwr Ystadegau Economaidd dros gyfnod o fwy na 30 mlynedd yn y SYG – yn credu bod y brentisiaeth hefyd yn agor y drws i bobl o gefndiroedd gwahanol.

“Pan oeddwn i’n tyfu i fyny yn Abertyleri, doedd mynd i’r brifysgol ddim yn beth cyffredin i’w wneud – doedd pawb ddim yn gallu ei fforddio. Felly mae gwneud y brentisiaeth hon mor hygyrch â phosibl yn rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon,” meddai. “Gall roi cyfle i bobl gael y cymwysterau sydd eu hangen arnynt, ar gyfer gyrfa na fyddent erioed wedi meddwl y gallai fod yn bosibl iddynt.

“Bydd hwn yn waith caled i bwy bynnag sy’n ei wneud, ond byddan nhw’n cael eu talu wrth ddysgu a gallai’r buddion, o ran cyfleoedd gyrfa os ydyn nhw’n pasio, fod yn enfawr.”

Dywedodd yr Athro Jacqui Boddington, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymgysylltu â Myfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae cydweithrediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru i gynhyrchu’r brentisiaeth gradd arloesol hon yn ymgorffori ein hymrwymiad i ddarparu addysg hygyrch o ansawdd uchel sy’n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant.

“Trwy integreiddio gwaith cwrs academaidd trwyadl â phrofiad ymarferol, rydym yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen ar brentisiaid i ragori ym maes dadansoddi data sy’n datblygu’n gyflym.

“Mae’r brentisiaeth hon nid yn unig yn agor drysau i’r rhai nad ydynt efallai wedi cael y cyfle i ymgymryd ag addysg uwch, ond mae hefyd yn sicrhau bod ein graddedigion wedi’u paratoi’n dda i fodloni gofynion yr economi sy’n cael ei gyrru gan ddata heddiw.”

Mae’r brentisiaeth yn agored i unrhyw un dros 18 oed sydd ag o leiaf bum TGAU (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg), ynghyd â’r hyn sy’n cyfateb i ddau Lefel A, er bod ymgeiswyr heb y graddau hyn, ond sydd â phrofiad perthnasol mewn data proffesiynol neu amgylchedd ddadansoddol, hefyd yn cael eu hystyried.

Mae 25 o brentisiaethau ar gael i ddechrau ym mis Medi 2024, gyda 65 arall yn cael eu cynnig dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Mae ceisiadau ar gyfer eleni yn agor ym mis Mehefin. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen anfon e-bost at: Entry.Talent@ons.gov.uk am ragor o wybodaeth.