Skip to content

Gwell profiad o prynnu docynnau i chefnogwyr i Glybiau Chwaraeon Met Caerdydd

21 Ionawr 2025

Mae Chwaraeon Met Caerdydd wedi cychwyn partneriaeth efo ap chwarawon Fanbase i gwella profiad i gefnogwyr ar draws ystod o glybiau chwaraeon y Prifysgol.

Mae Fanbase yn arbenigo mewn darparu tocynnau mwy effeithlon ac yn caniatáu i glybiau gysylltu â chefnogwyr mewn ap integredig.

Gall cefnogwyr sy’n mynychu Campws Prifysgol Metropolitan Caerdydd Cyncoed ddisgwyl manteisio ar newid sylweddol yn y profiad digidol gyda llu o nodweddion gan gynnwys tocynnau digidol a chynnwys clwbiau mewn un lle.

Dywedodd Gareth Walters, Rheolwr Datblygu Busnes yn Chwaraeon Met Caerdydd: “Rydym yn gyffrous i gael ein partneru â Fanbase sydd wedi rhoi profiad gwell i gefnogwyr i’n clybiau chwaraeon. Mae’r broses o brynu tocynnau ar gyfer gemau, tymhorau a digwyddiadau un-tro wedi ein galluogi i gynyddu cyfleoedd refeniw, tra’n cynnig profiad gwell i’n cefnogwyr Saethwyr cyn ac yn ystod gemau.

Fe wnaethon rhedeg prawf gyda’n tîm pêl-fasged a oedd yn llwyddiant mawr, ac rydym yn hapus i weld mwy o glybiau ym Met Caerdydd eisiau ymuno â Fanbase. Mae hyd yn oed wedi bod yn llwyddiant ysgubol ar gyfer digwyddiadau untro, lle mae twrnamaint Athletau a thwrnamaint tenis proffesiynol ar y campws ar diwedd 2023, wedi mabwysiadu defnydd Fanbase ar gyfer eu gwerthiant tocynnau.”

Dywedodd Jerome McCarthy, Pennaeth Twf Fanbase: “Rydym yn falch iawn o weithio gyda’r tîm yn Chwaraeon Met Caerdydd i ddod â chwaraeon Prifysgol ar draws Pêl-fasged, Athletau, Tennis a mwy at ei gilydd. Trwy ddewis Fanbase, gall cefnogwyr nawr ryngweithio â’r gwahanol chwaraeon mewn un lle, gan ei gwneud hi’n hawdd prynu tocynnau, cyrchu cynnwys a derbyn cynnwys a chyfathrebiadau personol mewn un profiad brand.

Mae Fanbase yn rhoi’r cyfle gorau i sefydliadau chwaraeon Met Caerdydd gynyddu ymgysylltiad i gyd tra’n arbed gwaith gweinyddol gwerthfawr i’r timau cefn swyddfa. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i dyfu ar draws Chwaraeon Met Caerdydd a throsoli’r gwerth cynyddol wrth i fwy a mwy o chwaraeon gysylltu.”

Mae tocynnau ar gyfer timau Pêl-fasged Saethwyr Met Caerdydd, a chystadlaethau athletaidd a thenis i gyd ar gael trwy ap Fanbase.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn bartner neu’n noddwr gyda Met Caerdydd, cysylltwch â’r Rheolwr Datblygu Busnes Gareth Walters, ar gjwalters@cardiffmet.ac.uk.