Dau benodiad newydd i Fwrdd Llywodraethwyr Met Caerdydd
Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn croesawu dau Aelod Annibynnol newydd i'w Bwrdd Llywodraethwyr, pob un yn dod â sgiliau, safbwyntiau ac arbenigedd penodol i lywio'r sefydliad tuag at lwyddiant yn y dyfodol. Cafodd eu penodiadau eu cymeradwyo gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ddydd Iau 22 Chwefror 2024.
Kevin Coutinho, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a'r Cyfarwyddwr, Windsor Fellowship
"Rwy'n falch iawn o ymuno â bwrdd prifysgol sy'n canolbwyntio ar ddarparu mynediad i addysg uwch o ansawdd uchel i'r gymuned.
Mae Met Caerdydd yn adlewyrchu fy angerdd dros fynediad a chynhwysiant i bawb ac edrychaf ymlaen at wasanaethu'r sefydliad, ei myfyrwyr a'i staff."
Dr Giri Shankar MBE, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
"Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno â Bwrdd y Llywodraethwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae hwn yn gyfnod heriol ond cyffrous i'r brifysgol gan ei bod yn cychwyn ar daith uchelgeisiol dros y blynyddoedd nesaf. Rwy'n gobeithio gallu dod â'm profiad a'm harbenigedd o safbwynt iechyd ac iechyd cyhoeddus, i gyfrannu at weledigaeth y bwrdd.
Edrychaf ymlaen at gefnogi cryfhau cydweithrediadau rhyngwladol y brifysgol yn ogystal â hyrwyddo'r agenda cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant."