Skip to content

Cyrsiau byr am ddim ar gael yn Ysgol Haf Met Caerdydd

21 Mai 2024

Mae Ysgol Haf Met Caerdydd yn dychwelyd am flwyddyn arall, gan ddarparu cyrsiau byr am ddim i oedolion ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ym mis Mehefin 2024.

Gydag 30 o gyrsiau yn amrywio o, ond heb fod yn gyfyngedig i, mynediad i ddysgu, dylunio print, codio a seicoleg, mae ein Hysgol Haf wedi’i chynllunio ar gyfer bobl sydd heb gael mynediad i addysg uwch. Cynhelir pob cwrs ar Gampws Llandaf Met Caerdydd rhwng 10 a 21 Mehefin 2024, gan roi cyfle i ddysgwyr brofi ein campws a’n cyfleusterau a chael blas ar fywyd myfyriwr prifysgol.

Dywedodd Caitlin Woodland, Rheolwr Ehangu Mynediad: “Mae Ysgol Haf Prifysgol Met Caerdydd, mewn cydweithrediad ag Ymestyn yn Ehangach, yn rhoi cyfle i ddysgwyr sy’n oedolion i roi cynnig ar amrywiaeth o gyfleoedd dysgu diddorol a difyr, yn rhad ac am ddim. Mae’r cyrsiau’n canolbwyntio ar roi profiad hwyliog, grymusol ac ysbrydoledig i oedolion, gan ddarparu llwybr i astudio’n llawn amser yn y Brifysgol.”

“Sefydlwyd y rhaglen dros 15 mlynedd yn ôl i helpu dysgwyr sydd heb gael mynediad i addysg uwch eto am nifer o resymau gwahanol. Yn yr amser hwnnw, rydym wedi gweld nifer o ddysgwyr sy’n oedolion yn defnyddio’r cyrsiau fel sbardun i’w taith ddysgu ffurfiol ac rwy’n gyffrous iawn i weld mwy o ddysgwyr yn mynd drwy’r trawsnewidiad hwnnw eleni.”

Mynychodd Andrea Morris yr Ysgol Haf llynedd: “Roeddwn i’n gyffrous iawn i gael lle ar y cwrs ac fe wnes i ddarganfod ei fod wedi rhoi hyder a sgiliau i mi a hefyd wedi helpu’n aruthrol gyda fy iechyd meddwl i fod gyda phobl eraill, i sgwrsio â phobl newydd, i ddysgu pethau newydd ac i ennill sgiliau.”

Mae Ysgol Haf Prifysgol Met Caerdydd yn agored i oedolion dros 18 oed, fodd bynnag rhoddir blaenoriaeth i bobl sy’n bodloni meini prawf penodol, gan gynnwys y rhai sy’n byw mewn ardaloedd incwm isel lle ceir lefelau ymgysylltu isel, sy’n wynebu tlodi mewn gwaith, neu unigolion sydd heb gael mynediad i addysg uwch eto.

Nod Tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw sicrhau bod unigolion o unrhyw oedran, cefndir neu grŵp ethnig yn cael cyfle teg a chyfartal i gael mynediad i Addysg Uwch.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael a sut i gofrestru ar gael ar wefan Metropolitan Caerdydd.