Bodlonrwydd myfyrwyr yn cynyddu’n chwim ym Met Caerdydd
Mae lefelau boddhad myfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi codi’n chwim yn ystod y 12 mis diwethaf.
Mae sgôr boddhad myfyrwyr Met Caerdydd wedi cynyddu i 81 y cant, cynnydd o 7.9 y cant yn ôl Arolwg Cenedlaethol Boddhad o Fyfyrwyr (ACF).
Mae’r lefel boddhad cyffredinol bellach yn uwch na chyfartaledd Cymru.
Mae canlyniadau’r ACF 2024, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr, yn dangos canran y myfyrwyr a gytunodd yn gryf neu a gytunodd eu bod yn fodlon ar ansawdd eu cwrs yn gyffredinol, yn ogystal â mesur llwyddiant ar draws wyth thema arall, gan gynnwys ‘addysgu ar fy nghwrs’, ‘llais y myfyrwyr’ ac ‘asesu ac adborth’. Gwelwyd sgoriau Met Caerdydd yn gwella neu’n aros yn sefydlog ar draws yr holl themâu hyn.
Mae’r ACF yn arolwg y maes myfyrwyr israddedig blwyddyn olaf yn ei gwblhau i asesu eu profiadau yn y brifysgol. Eleni, cwblhaodd 74 y cant o fyfyrwyr blwyddyn olaf Met Caerdydd yr arolwg.
Dywedodd yr Athro Rachael Langford, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae darparu profiad o ansawdd uchel i’n myfyrwyr o gofrestru fel myfyrwyr newydd i fod yn gyn-fyfyrwyr wrth wraidd popeth rydym yn ceisio ei wneud ym Met Caerdydd, felly mae’r canlyniadau heddiw yn datgan yn glir ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir.
“Rydym am i Met Caerdydd ddarparu cyfleoedd rhagorol i‘r holl fyfyrwyr gyflawni eu potensial yn llawn, ac mae dangosyddion perfformiad strategol fel yr ACF yn ein helpu i ddeall sut mae myfyrwyr yn gweld ymdrechion y Brifysgol i gefnogi eu llwyddiant. Ar lefel pwnc, rydym yn arbennig o falch bod gan 12 o raglenni gradd sgoriau boddhad o dros 90 y cant, gyda phump yn derbyn sgôr boddhad o 100 y cant.
Mae canlyniadau’r ACF yn dilyn dangosyddion cadarnhaol diweddar eraill i Met Caerdydd. Fis diwethaf, datgelodd yr arolwg Hynt Graddedigion mai Met Caerdydd yw’r brifysgol orau yng Nghymru am gyflogadwyedd, gyda 96.3 y cant o raddedigion Prifysgol Metropolitan Caerdydd mewn gwaith neu astudiaeth bellach a dangosodd y Complete University Guide yn ddiweddar hefyd gynnydd chwim yn safle Met Caerdydd, o 71 yn 2023 i 63 yn 2024.
Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, a gomisiynwyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr yn Lloegr ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, wedi bod yn cipio adborth myfyrwyr israddedig blwyddyn olaf ar eu profiadau cwrs ers 2005.