Arddangosfa Greadigol Met Caerdydd sy’n arddangos gwaith gan blant ysgol ar draws De Cymru ar agor nawr
Yr wythnos hon, bydd dros 50 o ysgolion ar draws De Cymru yn cymryd rhan yn Arddangosfa Greadigol flynyddol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Bellach yn ei seithfed flwyddyn, lansiwyd yr Arddangosfa Greadigol yn 2017 ac mae’n dathlu creadigrwydd a dawn artistiaid a dylunwyr ifanc, gan arddangos ystod amrywiol o brosiectau a gweithiau celf.
Mae Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ac Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd yn cydweithio i ddarparu llwyfan i ysgolion rannu gwaith gyda’i gilydd, rhieni a’r cyhoedd ehangach mewn gofod arddangos pwrpasol.
Dywedodd Samantha Rutledge, Pennaeth Celf Ysgol y Bont ym Mhen-y-bont ar Ogwr: “Dyma’r bedwaredd flwyddyn i ni fynychu’r Arddangosfa Greadigol ym Met Caerdydd. Mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gydnabod a dathlu eu cyflawniadau eu hunain a chyflawniadau eraill. Bellach mae gan ddysgwyr gwell dealltwriaeth o yrfaoedd a’r byd gwaith yn y sector creadigol, gyda thua 20% o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio Lefel 2 Celf a Dylunio neu gyrsiau creadigol tebyg. Mae dysgwyr yn fwy uchelgeisiol ac yn fwy hyderus, ac o ganlyniad wedi goresgyn rhwystrau sy’n bersonol iddyn nhw, sydd wedi rhoi nodau a phwrpas iddynt ar gyfer eu dyfodol.”
Mae Jason Davies yn Uwch Ddarlithydd mewn Addysg yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd ym Met Caerdydd, ac mae hefyd yn gyfrifol am gychwyn yr Arddangosfa Greadigol: “Mae arddangosfa eleni yn argoeli i fod yn ddigwyddiad arbennig o uchelgeisiol, gyda detholiad rhagorol o waith yn cael ei arddangos i’r cyhoedd ei weld gan ddisgyblion celf a dylunio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
“Mae’n wych gweld yr arddangosfa’n parhau i fynd o nerth i nerth bob blwyddyn, ac mae 2024 wedi gweld y nifer fwyaf o gyfranogwyr yn arddangos gweithiau yn yr arddangosfa. Mae hefyd yn gyfle gwych i’r gymuned ddod at ei gilydd a gwerthfawrogi ymroddiad ac arloesedd ein myfyrwyr. Diolch i’r holl athrawon a’r disgyblion sydd wedi rhoi o’u hamser eto eleni i greu’r ddigwydd hwn.”
Cynhelir yr Arddangosfa Greadigol yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ar gampws Llandaf Met Caerdydd. Mae’n agor ddydd Iau 20 Mehefin a bydd yn rhedeg tan ddydd Mercher 26 Mehefin rhwng 10yb a 5yp o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae croeso i’r cyhoedd alw heibio ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw.
Myfyriodd disgybl blwyddyn 11 o Ysgol y Bont ar weld eu gwaith: “Mae mynd i Arddangosfa Greadigol Met Caerdydd a gweld fy ngwaith yn cael ei arddangos gyda neges wedi’i gosod wrth ei ymyl yn dweud, ‘Rydym yn Caru Eich Gwaith’, gan dîm BA (Anrh) Dylunio Ffasiwn wedi fy ysbrydoli i barhau i weithio’n galed. Rwy’n gobeithio astudio lefel A mathemateg a celf yn y chweched dosbarth lleol ac i fynd i’r brifysgol yn y pen draw.”