Adroddiad yn dweud bod Diffyg Cefnogaeth Iaith Cymraeg yn gadael Goroeswyr Strôc i lawr.
Mae rhai goroeswyr strôc yn methu â chyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg gan nad oes mynediad i therapi lleferydd ac iaith yn eu hiaith gyntaf neu'r iaith o'u dewis.
Cred y Gymdeithas Strôc y dylid cynnig gwasanaeth Cymraeg i oroeswyr sy'n siarad Cymraeg er mwyn sicrhau cydraddoldeb wrth ddarparu therapi lleferydd ac iaith yn y Gymraeg. Comisiynodd yr elusen Brifysgol Metropolitan Caerdydd i ganfod anghenion a phrofiadau goroeswyr strôc sy'n siarad Cymraeg a phwysigrwydd argaeledd cefnogaeth yn eu hiaith gyntaf, sef Cymraeg.
Mae’n nodi bod darparu gwasanaethau gofal iechyd yn iaith ddewisol rhywun wedi'i gydnabod ers amser maith fel rhywbeth pwysig i’w gofal ac ar gyfer goroeswyr strôc gall fod yn hanfodol ar gyfer adferiad.
Affasia yw anhwylder iaith a chyfathrebu gyda strôc yn ei achosi fwyaf. Mae'n effeithio ar allu rhywun i siarad, darllen, ysgrifennu a defnyddio rhifau. Mae dros 70,000 o oroeswyr strôc yng Nghymru, ac mae 40% ohonynt yn profi affasia.
Ychydig o wybodaeth neu ddata sydd ar gael am gyffrediniaeth goroeswyr strôc sy'n siarad Cymraeg. Nid oes dealltwriaeth glir o'r gallu i ddarparu therapi lleferydd ac iaith yng Nghymraeg i'r rhai sydd ag affasia. Mae angen mwy o wybodaeth am gyffrediniaeth affasia yn dilyn strôc yng Nghymru ac am fynediad at wasanaethau i gefnogi sgyrsiau yn y dyfodol am gynllunio a darpariaeth.
Cafodd Sian Teagle, 50 oed, o Bargod, ei strôc ym mis Rhagfyr 2022 ac mae'n credu bod cynnig therapi lleferydd ac iaith yng Nghymraeg yn hanfodol i siaradwyr Cymraeg ac y byddai wedi ei helpu wrth wella o'i strôc.
“Mae siarad Cymraeg yn bwysig iawn i mi, ac mae’n rhan ohonof fi. Pan gefais fy strôc, cefais therapi lleferydd ac iaith yn Saesneg ond ni chynigiwyd y gwasanaeth hwnnw i mi yn y Gymraeg.”
“Ar ôl fy strôc, dywedodd fy merch Arwen, sy'n siarad Cymraeg, fod fy Nghymraeg yn llawer gwell na fy Saesneg. Byddwn yn dechrau slwtian yn Saesneg, ond roedd fy Nghymraeg yn iawn. Efallai y byddwn wedi bod yn fwy hyderus gyda fy Nghymraeg pe bawn i wedi gallu cael therapi lleferydd ac iaith. Ni ofynnwyd i mi erioed a oedd angen therapi lleferydd ac iaith arnaf yn Gymraeg, sydd bellach yn syfrdanol yn fy marn i.”
“Roeddwn i’n hynod lwcus gan fod fy nheulu’n rhugl yn y Cymraeg ac yn fy annog. Roedd un nyrs ar y ward a ymarferodd gyda mi, ond nid oedd hi’n rhugl. Roedd claf arall yn yr ysbyty yr un amser â mi a’i hiaith gyntaf oedd y Gymraeg a gofynnwyd i mi siarad â hi, mewn gwirionedd, dylai hi fod wedi cael mynediad at therapi lleferydd ac iaith Cymraeg, fel y dylai unrhyw un sydd am gael cymorth i'w helpu i wella.”
Mae’r Gymdeithas Strôc yn cynnig nifer o wasanaethau yn y Gymraeg gan gynnwys y grŵp cymorth ar-lein ‘Paned a Sgwrs’ a’r ‘Llinell Gymorth Strôc’ sy’n cynnig gwasanaeth galw’n ôl gyda siaradwr Cymraeg.
Dywedodd Llinos Wyn Parry, Arweinydd Ymgysylltu ar gyfer y Gymdeithas Strôc yng Nghymru: “Mae’r Gymdeithas Strôc wedi ymrwymo i ddarparu’r lefel uchaf o wasanaeth i bawb sy’n siarad ac yn darllen Cymraeg. Rydym yn falch o’n presenoldeb yng Nghymru, ac o’n goroeswyr strôc, gwirfoddolwyr a staff sy’n siarad Cymraeg.”
“Mae Cymraeg yn rhan sefydledig o wead cyfoethog Cymru ac rydym yn deall, i’r rhai sy’n siarad Cymraeg, mae’n rhan ganolog o’u bywyd a rhan bwysig o’r diwylliant a’r gymuned. Rydym yn credu bod pawb yn haeddu byw’r bywyd gorau posib ar ôl strôc. I siaradwyr Cymraeg, gwyddom fod hyn yn golygu eich cefnogi yn eich iaith ddewisol.”
“Dyna pam y buom yn gweithio gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i gael gwell dealltwriaeth o anghenion goroeswyr strôc sy’n siarad Cymraeg wrth i ni weithio gyda phartneriaid i gynyddu ac adeiladu ar y cymorth y gallwn ei gynnig eisoes trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Bydd y Gymdeithas Strôc yn parhau i weithio ar ddatblygu gwasanaethau affasia uwch sy’n cefnogi anghenion cyfathrebu pobl uniaith a dwyieithog yng Nghymru – gan helpu i gefnogi’r broses o adeiladu cynnig cefnogaeth cyfathrebu Cymraeg i wella gwasanaethau affasia presennol a darparu ymyrraeth gymunedol fel Paned a Sgwrs mewn ardaloedd lle mae prinder.”
Dywedodd Carys Williams, Darlithydd Cyswllt mewn Therapi Lleferydd ac Iaith ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae’r adroddiad cychwynnol hwn yn waith pwysig gan ei fod yn fan cychwyn ar gyfer ymchwil pellach am ddarpariaeth iaith Cymraeg o fewn gofal strôc.”
“Mae’n hanfodol gwrando ar a dysgu o brofiadau unigolion sydd â phroblemau cyfathrebu ar ôl strôc i lywio gofal o safon. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd ystyried anghenion pobl sydd â'r Gymraeg fel eu hiaith gyntaf wrth gynllunio gwasanaethau yng Nghymru.”
Dywedodd Pippa Cotterill, Pennaeth swyddfa Cymru, Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith:
“Rydym yn croesawu cyhoeddiad yr ymchwil hon am brofiadau pobl sy’n siarad Cymraeg o anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu a’r drafodaeth y mae hyn yn ei chodi. Mae therapi lleferydd ac iaith yn chwarae rhan hanfodol yn adsefydlu ac ailalluogi goroeswyr strôc trwy asesu eu hanghenion a darparu strategaethau priodol i gefnogi eu hanghenion lleferydd, iaith, cyfathrebu a llyncu. Mae angen dealltwriaeth gliriach, ar draws sefydliadau statudol a gwirfoddol, am y llwybrau ar gyfer cefnogaeth therapi lleferydd ac iaith i bobl sydd ag anawsterau cyfathrebu pan mai Cymraeg yw iaith ddewisol y person.
“Cred Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith y dylai ymyriadau gael eu cynnig a’u cyflwyno yn y Gymraeg i unrhyw un sy’n dymuno hynny. Rydym yn croesawu’r buddsoddiad mewn darlithwyr sy’n siarad Cymraeg trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau bod myfyrwyr israddedig yn gallu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn gwerthfawrogi’r defnydd o gwotâu ar gyfer siaradwyr Cymraeg o fewn ffigurau comisiynu’r proffesiwn. Credwn y bydd y datblygiadau hyn yn arwain at gynnydd yn nifer y therapyddion lleferydd ac iaith sy’n siarad Cymraeg."
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Laura Thomas, Swyddog Cyfathrebu i Gymru yn y Gymdeithas Strôc yn Laura.Thomas@stroke.org.uk