Skip to content

Y Farwnes Floella Benjamin yn ysbrydoli arweinyddiaeth wrth-hiliaeth yng Nghymru

8 Mehefin 2023

Cynhaliwyd cynhadledd arweinyddiaeth genedlaethol dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliaeth (DARPL) gyntaf Cymru, sy’n canolbwyntio ar addysgwyr mewn addysg, gofal plant a chwarae, yn y brifddinas heddiw (8 Mehefin 2023).

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, sy’n galw am ddim goddefgarwch i hiliaeth yn ei holl ffurfiau.

Daeth y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, â thros 250 o arweinwyr o faes addysg a’r blynyddoedd cynnar ynghyd, gan adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes ar waith, yn dilyn cyflwyno Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL) ers 2022.

Mae DARPL yn darparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel a sylfaen i ymarferwyr i’w helpu i gefnogi arweinyddiaeth wrth-hiliaeth ym maes dysgu, addysgu, gofal plant, chwarae ac arweinyddiaeth gyda phlant a phobl ifanc ledled Cymru, gyda 18,000 o weithwyr addysg proffesiynol yn cymryd rhan hyd yma. Mae DARPL, a ddatblygwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, wedi agor yn ddiweddar i arweinwyr ac ymarferwyr ym maes gofal plant, gwaith chwarae a’r blynyddoedd cynnar ac addysg bellach.

Headshot of Baroness Floella Benjamin
Y Farwnes Floella Benjamin

 

Gan gyflymu’r momentwm hwn, canolbwyntiodd prif siaradwyr y digwyddiad, gan gynnwys y Farwnes Floella Benjamin a Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ar arweinyddiaeth wrth-hiliaeth, sef un o’r prif sbardunau i gyflawni’r uchelgais ar gyfer Cymru wrth-hiliol.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Rydym wedi ymrwymo i wreiddio gwrth-hiliaeth ar draws system addysg Cymru. Mae’r gefnogaeth i’r digwyddiad arweinyddiaeth cenedlaethol dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliaeth cyntaf heddiw wedi bod yn aruthrol. Mae ein harweinwyr addysgol yn allweddol i sbarduno’r newid tuag at arweinyddiaeth wrth-hiliaeth.”

Dywedodd y Farwnes Floella Benjamin:

“Yng nghynhadledd Arweinyddiaeth Genedlaethol DARPL, fe wnes i siarad ag arweinwyr Cymru ym maes Addysg, Gofal Plant a Chwarae am fy nhaith fel plentyn i’r DU a arweiniodd at fy llyfr poblogaidd ‘Coming to England’. Roedd fy sesiwn yn myfyrio ar fy mhrofiad o oresgyn adfyd a rhwystrau drwy agwedd gadarnhaol a dysgu eu hwynebu gyda gwên. Nod fy amser gyda’r arweinwyr hyn yng Nghymru yw ysbrydoli a chefnogi eu harweinyddiaeth wrth-hiliaeth ac i ni i gyd feddwl mwy am ‘Blentyndod sy’n para oes’.”

Dywedodd Chantelle Haughton, Cyfarwyddwr Sefydlu DARPL, Prif Ddarlithydd mewn Plentyndod Cynnar ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd:

“Mae cynhadledd arweinyddiaeth genedlaethol gyntaf DARPL yn ddiwrnod hanesyddol, yn gam cydweithredol tuag at sicrhau addysg, gofal plant a gwaith chwarae gwrth-hiliol yng Nghymru. Mae’r digwyddiad unigryw hwn yn uno, yn cefnogi ac yn herio arweinwyr allweddol drwy ddysgu proffesiynol o fewn cymuned ymarfer strategol. Gyda’n gilydd, rydym yn benderfynol o ail-ddehongli profiad cenedlaethau’r dyfodol mewn Cymru wrth-hiliol. Rydym yn bwriadu cynnal digwyddiadau DARPL cenedlaethol blynyddol yn y dyfodol.”

Am ragor o wybodaeth am DARPL, ewch i darpl.org.