Skip to content

Rhaglen ArcHER am addysgu ar gorff benywaidd i wella llwyddiant mewn chwaraeon

8 Tachwedd 2023

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi lansio rhaglen newydd sy’n anelu at greu amgylchedd cyfartal i ferched chwarae chwaraeon drwy roi ‘dealltwriaeth ddyfnach’ o’r corff benywaidd i’w myfyrwyr a’i gweithlu.

Students listen to talks at ArcHER event
Myfyrwyr Met Caerdydd yn gwrando ar sgyrsiau yn nigwyddiad ArcHER

Bydd ArcHER – sy’n chwarae ar eiriau o dimau chwaraeon ‘Archers’ Met Caerdydd – yn gweld y Brifysgol yn buddsoddi mewn partneriaethau, digwyddiadau a gweithdai addysgol i helpu athletwyr benywaidd i berfformio hyd eithaf eu gallu, tra’n addysgu ar y ffactorau a all effeithio ar berfformiad. Bydd Met Caerdydd nawr yn gweithio mewn partneriaeth â Well HQ, sy’n rhannu data ac ymchwil hanfodol o sut mae’r corff benywaidd yn gweithio ac yn gweithredu, sydd ar goll ar hyn o bryd o ddisgyblaethau iechyd a ffitrwydd, gan gynnwys gwybodaeth am y cylchred mislif, glasoed, cymorth y fron a’r menopos, i gyflwyno’r rhaglen ArcHER i staff, myfyrwyr a’r gymuned leol.

​Un myfyriwr a fydd yn elwa’n uniongyrchol o’r rhaglen yw Abigail Yunker, 25, myfyriwr MSc mewn Hyfforddi Chwaraeon ym Met Caerdydd. Mae Abigail yn chwarae pêl-fasged i BUCS Met Caerdydd a Chynghrair Pêl-fasged Prydain i Ferched. Dywedodd hi: “Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn cael addysg am y gwahanol rwystrau y mae merched yn benodol yn eu profi a sut i gael y wybodaeth a’r adnoddau i bontio’r bwlch hwnnw mewn chwaraeon. Dydw i ddim yn meddwl bod merched wedi cael digon o addysg am y rhwystrau hyn. Er enghraifft, nid oedd y rhan fwyaf o’m tîm erioed wedi cael bra wedi’i osod yn iawn, sy’n rhywbeth y dylai pob merch gael mynediad ato, er mwyn gwella eu perfformiad fel athletwr.

“Mae’r rhaglen wedi dod â goleuni newydd i rai o’r materion cyfoes y mae merched yn eu hwynebu mewn chwaraeon gan ganiatáu i mi wneud cysylltiadau fel chwaraewr a hyfforddwr chwaraeon iau merched. Rwyf bob amser wedi ei weld fel brwydr dros gydraddoldeb gyda dynion, ond dysgais ei fod yn fwy o frwydr i gofleidio ein gwahaniaethau a chael y gefnogaeth i allu llwyddo.”

Dywedodd Laura Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon, Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Ganed ArcHER gyda’r bwriad o ysbrydoli ein myfyrwyr benywaidd a’n gweithlu i wir ddeall y corff benywaidd a chyflawni eu nodau a’u dyheadau.

“Bydd y ffocws i ddechrau ar chwaraeon perfformio a’n tîm gwasanaethau perfformiad a’n hyfforddwyr, gan eu harfogi â dealltwriaeth ddyfnach o gorff y fenyw a pha mor ymarferol y gallwn ddatblygu ein harferion presennol i gefnogi ein myfyrwyr-athletwyr benywaidd.”

Cynhaliwyd lansiad ArcHER ym Met Caerdydd ar y cyd â digwyddiad Arweinyddiaeth Chwaraeon Merched Tîm Cymru. Daeth merched ysbrydoledig a sefydliadau sy’n arwain y sector sydd ar flaen y gad ym maes chwaraeon merched at ei gilydd ar gampws Cyncoed Met Caerdydd i gynnig cymorth a gwybodaeth i athletwyr benywaidd, gan gynnwys Nixi Body, brand dillad isaf amsugnol ar gyfer mislif; peBe, brand bra chwaraeon effaith uchel; Unicorn Cup, cwmni cwpan mislif; a sgyrsiau gan sefydliad iechyd meddwl mewn chwaraeon elitaidd, Guardian Ballers​.

Ymunodd Met Caerdydd, sy’n brif bartner gyda Thîm Cymru, ar gyfer digwyddiad panel Clwb Busnes Tim Cymru yn ystod rhaglen y dydd, a oedd yn cynnwys Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr Tîm Cymru; Dr Emma Ross o Well HQ; Suzy Drane, cyn gapten pêl-rwyd Cymru; Sarah Jones, chwaraewr Hoci Cymru a Phrydain Fawr a Llywydd Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd Natalia-Mia Roach.

Dywedodd Dr Emma Ross, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gwyddonol The Well HQ: “Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gyda rhaglen ArcHER. Mae Met Caerdydd wedi gwneud ymrwymiad hirdymor i wella profiad merched mewn chwaraeon drwy fuddsoddi mewn addysg a datblygiad hyfforddwyr, athletwyr a staff chwaraeon. Mae’r digwyddiad lansio hwn yn nodi dechrau ail-ddyluniad pwysig o ecosystem chwaraeon merched mewn Prifysgolion, ac mae Met Caerdydd yn arloesi gyda’r newid hwnnw.”

Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr Tîm Cymru: “Mae’r digwyddiad hwn yn hynod bwysig i ferched o bob cefndir, mewn chwaraeon cystadleuol neu weithgareddau hamdden. Mae cael llais a chlywed gan gymaint o ferched ysbrydoledig yn allweddol i barhau i wthio’r ffiniau ac addysgu merched ifanc mewn chwaraeon. Mae’n fraint cynnwys ein Clwb Busnes Tîm Cymru diweddaraf mewn rhaglen mor allweddol.”