Prifysgol yn derbyn gwobr am gefnogi’r Lluoedd Arfog
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi derbyn Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn (ERS) ar gyfer 2023, sy’n cydnabod cefnogaeth y Brifysgol i gymuned y Lluoedd Arfog.

O dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, mae’r Wobr Arian yn cael i rhoi i gyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog trwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle.
Cafodd 17 o sefydliadau o bob rhan o Gymru eu cydnabod yn y digwyddiad blynyddol a gynhaliwyd yn HMS CAMBRIA, Caerdydd ar ddydd Iau 28 Medi.
Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: “Ar ran ein cymuned ym Met Caerdydd, rwy’n falch iawn o dderbyn y wobr hon sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd, ein pwrpas a’n blaenoriaethau. Mae’r Brifysgol yn cydnabod gwerth cefnogi’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys personél sy’n gwasanaethu, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol a’r ystod eang o sgiliau a phrofiad y maent yn eu cynnig i’n cymuned.”
I ennill y Wobr Arian ERS, rhaid i sefydliadau fynd ati i ddangos nad yw cymuned y Lluoedd Arfog o dan anfantais annheg fel rhan o’u polisïau recriwtio. Hefyd, rhaid iddynt sicrhau bod eu gweithlu’n ymwybodol o’r polisïau cadarnhaol tuag at faterion sy’n effeithio ar bersonél Amddiffyn, yn cynnwys Lluoedd Wrth Gefn, Cyn-filwyr, Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion gyda’r Cadetiaid, a gwŷr a gwragedd a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
Llofnododd Prifysgol Metropolitan Caerdydd Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2021 – yr ymrwymiad i anrhydeddu a chefnogi cymuned y Lluoedd Arfog.
Dywedodd Mr Craig Middle, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Ymgysylltu â Chyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn “Rydym wrth ein bodd bod cymaint o gyflogwyr yng Nghymru wedi cael eu cydnabod gyda’r Wobr Arian.”
Mae Met Caerdydd hefyd yn ddarparwr dysgu cofrestredig gyda chynllun ELCAS y Weinyddiaeth Amddiffyn, sydd ar gyfer personél y lluoedd arfog sy’n dymuno astudio cwrs prifysgol. Mae’r cynllun hwn yn darparu cymorth ariannol i bersonél y lluoedd arfog, sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog a’r rhai sy’n gadael y lluoedd arfog, i astudio cwrs yn y brifysgol, sydd o fudd uniongyrchol i’r gwasanaeth ac sy’n arwain at ddatblygiad personol a phroffesiynol.