Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cyhoeddi partneriaeth â CRX Compression i gefnogi athletwyr

Mae Met Caerdydd wedi partneru â darparwr blaenllaw o ddillad cywasgu premiwm a gynlluniwyd i wella adferiad, atal anafiadau a gwneud y gorau o berfformiad athletaidd.
Mae’r partneriaeth â CRX Compression yn gam arwyddocaol arall i Met Caerdydd wrth gefnogi ei fyfyrwyr athletwyr ac rhagori mewn perfformiad ac adferiad chwaraeon.
Bydd CRX Compression, sy’n adnabyddus am ei ymrwymiad i arloesi ac atebion sy’n canolbwyntio ar athletwyr, yn gweithio’n agos gyda’r tîm ffisiotherapi sydd newydd ei ddatblygu ym Met Caerdydd. Bydd y bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i fyfyrwyr athletwyr yn y Brifysgol i offer adfer a gwella perfformiad o’r radd flaenaf, gan gadarnhau ymhellach enw da Met Caerdydd fel canolbwynt ar gyfer rhagoriaeth a datblygiad athletaidd.
Dywedodd Richard Williams, Pennaeth Ffisiotherapi ym Met Caerdydd: “Mae’r bartneriaeth hon yn tynnu sylw at ein hymroddiad i gefnogi datblygiad ein myfyrwyr athletwyr, gan sicrhau bod ganddynt fynediad at y datblygiadau diweddaraf mewn gwyddor a thechnoleg chwaraeon. Trwy weithio mewn partneriaeth â CRX Compression, mae’r Brifysgol yn atgyfnerthu ei hymroddiad i wthio ffiniau perfformiad ac adferiad athletaidd, gan helpu myfyrwyr athletwyr i gyflawni eu potensial llawn.”

Sefydlodd CRX Compression ei hun trwy weithio mewn partneriaeth â thimau proffesiynol fel Dragons Rugby, Yorkshire County Cricket, Gloucester-Hartpury Women’s Rugby yn ogystal â chyflenwi Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon. Mae ei ddillad cywasgu arbenigol wedi’u cynllunio i gynnig lefelau uwch o gywasgu dros gyfnodau estynedig, diolch i’r deunyddiau datblygedig a ddefnyddir wrth eu hadeiladu.
Mynegodd Jack Wright, Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata CRX, ei frwdfrydedd am y bartneriaeth, gan ddweud: “Rydym yn gyffrous iawn am weithio gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Fel cyn-fyfyriwr yn y Brifysgol, rwy’n gwybod pa lefel y mae’r athletwyr yn hyfforddi a’r straen y maent yn ei roi eu cyrff wythnos ar ôl wythnos, mewn hyfforddiant neu mewn cystadleuaeth. Yn CRX Compression, ein nod yw darparu’r offer gorau posibl sydd eu hangen i wella adferiad, perfformiad, adsefydlu anafiadau, ac atal anafiadau i sicrhau canlyniadau ar ac oddi ar y cae.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn bartner neu’n noddwr gyda Met Caerdydd, cysylltwch â’r Rheolwr Datblygu Busnes Gareth Walters, gjwalters@cardiffmet.ac.uk.