Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn croesawu Gareth Baber fel Cyfarwyddwr y System Rygbi
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch o gyhoeddi penodiad Gareth Baber yn Gyfarwyddwr y System Rygbi, ychwanegiad angenrheidiol i system rygbi cynyddol y Brifysgol.

Mae gan Baber hanes a gyrfa nodedig efo lwyddiannau gwych. Yn fwyaf diweddar, ef oedd Hyfforddwr Cynorthwyol Ymosodiad a Sgiliau yn Rygbi Caeredin. Cyn hyn, cafodd ei gyfnod eithriadol fel Prif Hyfforddwr Rygbi Fiji 7 a Rygbi 7 Hong Kong a wnaeth cael sylw byd-eang, gan arwain Fiji at fuddugoliaeth aur Olympaidd hanesyddol yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020. Ar ben hynny, mae Gareth yn dod â rhagor o brofiad gydag ef, fel cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru ei hun ac amryw o rolau hyfforddi gyda rhanbarthau Cymru.
Ar ei benodiad, meddai Gareth; “Rwyf wrth fy modd fy mod yn ymuno â Phrifysgol Met Caerdydd fel Cyfarwyddwr y System Rygbi a’r cyfle y mae’r rôl newydd yn ei gynnig i Rygbi Met Caerdydd. Mae’n gyfle cyffrous i arwain y system rygbi hon wrth weithio o fewn amgylchedd chwaraeon ehangach y Brifysgol. Trwy adeiladu system a model cynaliadwy rydym yn ymroddedig fel tîm i weithio’n galed i sicrhau llwyddiant ar ac oddi ar y cae. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y datblygiad dros y blynyddoedd nesaf.”
Mae’r swydd hon sydd newydd ei chreu yn tanlinellu ymrwymiad Met Caerdydd i ddarparu profiad cyffrous o ansawdd uchel i chwaraewyr, o’u rhaglen iau hyd at y rhaglenni perfformio.
Daw’r penodiad hwn ar adeg gyffrous i Rygbi Met Caerdydd sydd â hanes o gynhyrchu chwaraewyr yn gyson sy’n mynd ymlaen i arwyddo cytundebau proffesiynol a chyflawni anrhydeddau rhyngwladol yng ngemau’r dynion a’r menywod. Bydd y penodiad hwn, ynghyd â’u partneriaeth ag WRU hefyd yn cael dylanwad hynod gadarnhaol yng ngêm gymunedol ac iau Caerdydd.
Er y bydd rôl Baber yn darparu lefel newydd o arweinyddiaeth a chynllunio strategol ledled y system rygbi, mae’n ymuno â thîm sydd eisoes â phrofiad ym Met Caerdydd. Bydd Dr Daniel Milton yn parhau i arwain rhaglen berfformio’r dynion fel Pennaeth Perfformiad Dynion, a Lisa Newton sy’n arwain rhaglen berfformio’r menywod fel y Prif Hyfforddwr. Mae Rhys Roberts yn parhau â’i rôl fel Pennaeth Rygbi Cymunedol, gan arwain ein rhaglen iau a’n darpariaeth gymunedol mewn partneriaeth ag WRU.
Dywedodd Ben O’Connell, Cyfarwyddwr Chwaraeon: “Rydym yn falch iawn o groesawu Gareth i’r tîm yn Chwaraeon Met Caerdydd. Mae denu rhywun sydd â phrofiad ar y llwyfan chwaraeon byd-eang yn dangos cryfder a pharch mawr ein system rygbi. Rydym yn ymfalchïo yn y penodiad carreg filltir hwn, wrth i ni ymdrechu am ragoriaeth yn ein darpariaeth ar bob lefel o’r gêm ac ar draws ein rhaglen i ddynion a menywod.”