Skip to content

Myfyrwyr yn dathlu yn Seremonïau Graddio mis Tachwedd

15 Tachwedd 2023

Yr wythnos hon, bydd cannoedd o fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn graddio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Bydd tua 1,100 o fyfyrwyr yn mynychu Seremonïau Graddio mis Tachwedd 2023, a gynhelir dros ddau ddiwrnod o ddydd Iau 16 – ddydd Gwener 17 Tachwedd.

Cardiff Metropolitan University students celebrate Graduation 2023

Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae’r Seremonïau Graddio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn academaidd. Mae’n achlysur seremonïol gwych ac yn gyfle i ddathlu gyda theulu a ffrindiau wrth i ni longyfarch graddedigion ar eu cyflawniadau. Rydym yn dymuno pob llwyddiant i bob un o’r myfyrwyr sy’n graddio eleni wrth iddyn nhw ddechrau’r bennod nesaf yn eu bywydau.”

Bydd Met Caerdydd hefyd yn dyfarnu Doethuriaeth er Anrhydedd i’r Gwir Anrhydeddus Justine Greening, cyn Ysgrifennydd Addysg ac ymgyrchydd symudedd cymdeithasol.

Bydd Seremonïau Graddio Met Caerdydd ym mis Tachwedd yn gweld myfyrwyr yn graddio o’r pum Ysgol astudio ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig.

Am ragor o wybodaeth am Wythnos Raddio Met Caerdydd, ewch i’n gwefan.