Myfyrwyr Darlledu Chwaraeon yn ennill Gwobr Teledu Frenhinol
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ennill gwobrau teledu cenedlaethol mawreddog ar gyfer rhaglenni dogfen yn dilyn chwaraeon yng Nghymru.
Enillodd Ben Cosgrove a Chris Knight, graddedigion MSc Darlledu Chwaraeon, ill dau yng Ngwobrau Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru.
Roedd Ben, o Bontypridd, yn rhan o’r tîm a gynhyrchodd raglen ddogfen y BBC, ‘Together Stronger’ yn dilyn trawsnewidiad tîm pêl-droed Cymru a arweiniodd at Gwpan y Byd FIFA 2022, a enillodd wobr y diwydiant am y Rhaglen Ddogfen Chwaraeon Orau.
Cafodd Ben y rôl fel ymchwilydd yn Barn Media, cynhyrchwyr y sioe, yn ystod ei astudiaethau ac, ers graddio, mae bellach yn gweithio gyda’r cwmni cynhyrchu yn llawn amser.
Meddai Ben: “Roedd hi’n fraint cael dweud stori tîm o chwaraewyr dwi wedi tyfu fyny yn eu gwylio a’u cefnogi. Er roeddem wedi synnu o dderbyn y wobr o ystyried lefel yr enwebeion haeddiannol roeddem yn eu herbyn. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn fy annog i barhau i greu’r math hwn o waith ystyrlon a gwthio ymhellach i wella ansawdd y straeon y gallwn eu hadrodd.

“Fyddwn i ddim yn gweithio i Barn Media nac wedi ennill Gwobr RTS oni bai am gwrs Darlledu Chwaraeon Met Caerdydd ac arweinydd y cwrs, Joe Towns. Mae’r cwrs hwn yn rhoi pwyslais enfawr ar adrodd straeon mewn chwaraeon, trwy sawl math gwahanol o gyfryngau.”
Derbyniodd Chris Knight, sydd hefyd yn raddedig MSc Darlledu Chwaraeon wobr yn y categori Ôl-raddedig Myfyrwyr gorau am ei raglen ddogfen ar becynnu beiciau yng Nghymru. Dywedodd Chris: “Rwy’n hynod falch o ennill gwobr yng Ngwobrau RTS Cymru am fy rhaglen ddogfen draethawd hir, ‘Ride the Spine’. Diolch yn fawr iawn i’r cwrs Darlledu Chwaraeon a Joe Towns am roi’r set sgiliau a’r platfform i mi wneud y rhaglen ddogfen.”
Dywedodd Joe Towns, Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd: “Roedd Chris a Ben ill dau yn fyfyrwyr rhagorol yn yr hyn a oedd yn ddosbarth talentog iawn o garfan 2022 ar y MScDarlledu Chwaraeon. Roedd saith o fyfyrwyr a graddedigion Met Caerdydd ar y rhestr fer yng ngwobrau’r RTS eleni, ac mae’r gydnabyddiaeth hon yn dyst i ansawdd y cwrs.”

Mae’r Gymdeithas Deledu Frenhinol yn elusen addysgol sy’n hyrwyddo celf a gwyddoniaeth teledu.
Mae ffilm Chris Knight, Ride the Spine, ar gael i’w gwylio ar YouTube: youtu.be/i5qG0_Yp6e0
Gellir gwylio rhaglen ddogfen ‘Together Stronger’ Barn Media ar y BBC: www.bbc.co.uk/programmes/m001dvw1