Myfyriwr yn honni bod Clirio ym Met Caerdydd yn debyg i “enfys ar ôl storm fellt a tharanau”
Mae myfyriwr a gafodd ei siomi ar ôl colli allan ar le yn ei dewis cyntaf o brifysgol yn 2020 oherwydd sgil-effaith y pandemig ar farciau Safon Uwch, wedi graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ar ôl sicrhau lle yn y brifysgol drwy’r system Glirio.
Daeth Alana Hann, 21, o Ben-y-bont ar Ogwr i astudio BSc (Anrh) Gwyddor Fiofeddygol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Aeth Alana drwy’r broses Glirio ar ôl iddi dderbyn graddau sylweddol yn is i ddechrau yn 2020 yn seiliedig ar y graddau a ragfynegwyd gan y Llywodraeth.
Dywedodd Alana: “Pan darodd y cyfnod clo cychwynnol, roeddwn i ym misoedd olaf y coleg ac yn paratoi i sefyll fy arholiadau. Dywedwyd wrthym am fynd adref ac na fyddem bellach yn gallu sefyll arholiadau gyda graddau'n seiliedig ar ein gwaith hyd yma. Cyn hyn, roeddwn wedi bod yn derbyn graddau A. Pan agorais fy ngraddau ym mis Awst 2020, nid oeddent cystal ag yr oeddwn i wedi disgwyl eu derbyn.”
O ganlyniad, bu’n rhaid i Alana, a oedd wedi dewis astudio ym Mhrifysgol Caerdydd a Newcastle i astudio Gwyddor Fiofeddygol, ailystyried ei hopsiynau. I Alana, roedd yr Wythnos Glirio yn rhywbeth nad oedd hi erioed wedi clywed amdano.
Aeth yn ei blaen i ddweud: “Roeddwn mewn llanast llwyr ar ddiwrnod canlyniadau. Ar ôl blynyddoedd o waith caled ac ystyried ble y byddwn i'n astudio, roeddwn i'n meddwl fy mod wedi colli fy nghyfle i fynd i'r brifysgol sy'n rhywbeth roeddwn i wedi bod eisiau ei wneud erioed. Fy nhiwtor coleg a’m cyflwynodd i’r system Glirio a phan ddarganfyddais fod Prifysgol Metropolitan Caerdydd hefyd yn cynnig Gwyddor Fiofeddygol, penderfynais gysylltu â nhw. Yn y diwedd, siaradais â menyw wych ar y llinell ganlyniadau ac roedd y sgwrs honno'n teimlo fel enfys ar ôl storm fellt a tharanau. Fe wnaeth y sicrwydd a’r gefnogaeth a gefais a’r ymdeimlad o ryddhad a deimlais pan dywedwyd wrthyf fod fy ngraddau’n ddigon da newid fy meddylfryd o feddwl bod fy nyfodol wedi’i ddifetha i sylweddoli bod gen i rywle arall i fynd, ac yn yr un ddinas roeddwn i eisiau mynd yn wreiddiol i astudio.”
Mae'r broses glirio yn caniatáu i fyfyrwyr nad ydynt wedi gwneud cais trwy UCAS eto, oherwydd na chawsant y graddau yr oeddent yn eu disgwyl neu sydd wedi newid eu meddwl ac sydd wedi penderfynu mynd i'r brifysgol yn ddiweddarach, allu ymgeisio o hyd. Mae'n rhedeg o fis Mehefin i fis Medi.
Er i’r Llywodraeth gywiro graddau myfyrwyr yn ddiweddarach ar ôl ymateb enfawr, cafodd Alana’r graddau uwch yr oedd wedi’u disgwyl eu cael, ond erbyn hynny, roedd Alana wedi colli ei lle yn ei phrifysgolion dewis cyntaf ac ail ddewis.
Meddai: “Er i ni gael ein graddau cywir yn y pen draw, roeddwn i eisoes wedi cofrestru ym Met Caerdydd. Yn y diwedd, clywais yn ôl gan fy mhrifysgol ail ddewis a gynigiodd le i mi ac fe wnes i ymchwilio i brifysgolion eraill trwy’r system Glirio, ond roeddwn i wedi penderfynu dod i Met Caerdydd.”
Mae Alana nawr yn paratoi i ddechrau ei MSc Gwyddor Fiofeddygol ym Met Caerdydd ym mis Medi a hoffai weithio mewn labordy tocsicoleg un diwrnod. Dywedodd, er gwaethaf y dechrau sigledig yn y brifysgol yn ystod y pandemig, bod ei phrofiad personol o’r brifysgol wedi bod yn un cadarnhaol iawn.
“Er ei fod yn bryder ar y pryd a minnau’n cael trafferth cyrraedd yma, mae bellach yn teimlo bod fy nhaith i’r brifysgol wedi digwydd am reswm. Mae gen i ffrindiau a aeth i brifysgol safle uwch ar bapur ac a astudiodd yr un cwrs ond heb gael y boddhad y cefais i. Rhoddodd Met Caerdydd brofiad gwych i mi felly byddwn yn bendant yn argymell meddwl y tu allan i'r blwch ac ystyriwch eich dewisiadau.
“Ac er nad dyna oedd fy newis cyntaf, dydw i ddim yn teimlo fy mod wedi dioddef tra’n astudio drwy gyfnod Covid. Rwy'n teimlo fel cefais bopeth roeddwn i ei hangen gan fod y brifysgol wedi gwneud ymdrech ychwanegol i wneud yn siŵr fy mod yn cael profiad gwych yn y brifysgol, sef creu atgofion a gwneud ffrindiau gwych. Met Caerdydd yw fy nghartref - fe wnes i fwynhau cymaint fy mod yn dod yn ôl i wneud fy nghwrs meistr yma!”
Mae rhagor o gyngor ar Glirio a sut i wneud cais ar gael ar wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd.