Skip to content

Myfyriwr plismona yn cael ei gwobrwyo am ei dewrder

13 Mehefin 2023

Mae myfyriwr plismona o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi derbyn Tystysgrif Cymeradwyaeth gan Heddlu De Cymru am ei dewrder.

Derbyniodd Olivia Lester, 21, o Ben-y-bont ar Ogwr y wobr am ei gweithredoedd dewr ochr yn ochr â’i gydweithiwr, PC Amy Sutton, yn atal dyn rhag neidio oddi ar bont yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Ar hyn o bryd, mae Olivia yn astudio BA (Anrh) Plismona Proffesiynol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac yn gweithio fel Cwnstabl Arbennig yn ystod ei hamser rhydd, sy’n rôl wirfoddol. Dywedodd: “Rwyf wedi bod yn Gwnstabl Arbennig ers ychydig dros flwyddyn bellach, ac wedi ennill profiad fel Swyddog Tîm Plismona yn y Gymdogaeth a Swyddog Ymateb. Fe wnaeth y cyfuniad o astudio a’r profiad ymarferol fy ngalluogi i ymateb i’r digwyddiad mewn modd priodol.”

Bydd Olivia, sydd bellach yn ei blwyddyn olaf ym Met Caerdydd, yn graddio’r haf hwn ac mae’n bwriadu teithio cyn gwneud cais i fod yn Swyddog Heddlu llawn amser.

Olivia Lester holding a Certificate of Commendation from South Wales Police
Olivia Lester

 

Parhaodd: “Rwy’n gobeithio y bydd y stori hon yn ysbrydoli mwy o fyfyrwyr Plismona Proffesiynol ym Met Caerdydd i fod yn Gwnstabliaid Arbennig. Rwy’n falch iawn o fod yn Gwnstabl Arbennig i Heddlu De Cymru ac rwy’n edrych ymlaen yn arw i weld ble mae’r daith hon yn mynd â mi.”

Dywedodd y Prif Arolygydd Rob Miles: “Rwy’n hynod falch o Gwnstabl Amy Sutton a’r Cwnstabl Arbennig Olivia Lester.

“Nid oes amheuaeth yn fy meddwl, oni bai am eu hymyrraeth amserol a dewr, byddai’r dyn wedi llwyddo i neidio o’r bont a fyddai wedi arwain at anaf sylweddol neu farwolaeth. Diolch i’r dewrder a’r proffesiynoldeb rhagorol a ddangosodd Amy ac Olivia, achubwyd bywyd person bregus ac mae bellach mewn man diogel.”

Dywedodd Kelly Hill, Darlithydd mewn Plismona Proffesiynol a Throseddeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Rydyn ni mor falch o weithredoedd Olivia. Mae hi wedi bod yn bleser ei chael ar y cwrs a does gen i ddim amheuaeth y bydd hi’n mynd ymlaen i wneud heddwas gwych.”