Skip to content

Met Caerdydd yw’r brifysgol gyntaf i ennill statws Partner Datblygu Pobl CIPD

17 Hydref 2023

Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw’r brifysgol gyntaf i ennill statws Partner Datblygu Pobl (PDP) CIPD.

Lesley Richards and Ashley Flaherty with the Cardiff Met People Services Team
Lesley Richards, Pennaeth CIPD Cymru, gydag Ashley Flaherty, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl Met Caerdydd, a thîm Gwasanaethau Pobl Met Caerdydd

 

​Mae’r CIPD yn cydnabod sefydliadau sydd wedi ymrwymo i ddatblygu eu pobl broffesiynol trwy gysoni eu gallu a’u heffaith â meini prawf CIPD, gan gynnwys hyrwyddo a buddsoddi mewn proffesiynoliaeth, darparu pwyntiau mynediad i’r proffesiwn pobl, a chydweithio â CIPD i amddiffyn a chynorthwyo’r proffesiwn pobl. Llai nag 20 sefydliad ar draws y DU sydd wedi ennill statws Partner Datblygu Pobl hyd yn hyn.

Cyflawnodd Met Caerdydd statws PDP trwy ddangos ei ymrwymiad i ddarparu swyddogaeth pobl o safon ryngwladol a meithrin diwylliant o ddatblygu’n barhaus trwy gysoni cynnydd â map CIPD o’r proffesiwn, sy’n gweithredu fel meincnod rhyngwladol ar gyfer y proffesiwn pobl a llwyddiant sefydliadau.

Yn ogystal â’r ffaith taw Met Caerdydd yw’r brifysgol gyntaf i gyflawni’r statws yma, mae’n un o gwta dau sefydliad yng Nghymru i ennill yr achrediad, ynghyd â Chastell-nedd Port Talbot.

Mae’r Brifysgol yn cyflogi 1,600 o bobl, y mae 35 ohonynt yn gweithio yn y tîm gwasanaethau pobl. Roedd y sefydliad yn awyddus i ennill statws PDP er mwyn sicrhau y gallai ddarparu’r swyddogaeth AD a phobl y mae’r holl weithwyr yn ei haeddu, er mwyn caniatáu i’w weithwyr wireddu eu potensial, ac er mwyn helpu i gynnal statws y Brifysgol fel un o ddarparwyr addysg gorau Cymru.

Mae Ashley Flaherty, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl Met Caerdydd yn llawn balchder am gamp y tîm. Dywedodd: “Rydyn ni’n falch iawn taw ni yw’r brifysgol gyntaf yn y DU i ennill statws Partner Datblygu Pobl CIPD.

“Dros y tair blynedd diwethaf, rydyn ni wedi edrych yn ofalus ar sut y gallwn drawsnewid ein dulliau o weithio a sut y gallwn ni gyflawni ein strategaeth pobl mewn ffordd effeithiol. Mae alinio ein cynllun datblygu â map Proffesiynau CIPD, buddsoddi yn ein datblygiad ni ein hunain, a meincnodi yn erbyn safonau’r diwydiant, wedi caniatáu i ni gyflawni hyn.

“Mae meithrin ein proffesiynoliaeth a’n hyfedredd wedi ein galluogi ni i ddatblygu swyddogaeth gwasanaethau pobl ragorol ac wedi helpu i greu lle bendigedig i weithio.”

Mae ennill statws PDP yn golygu bod Met Caerdydd bellach yn arbenigydd cydnabyddedig mewn datblygiad sefydliadol, sy’n cynnal ei hygrededd nid yn unig yn fewnol ac o fewn y byd academaidd, ond hefyd gyda rhanddeiliaid allanol. O ran ei gyflogeion, mae’n golygu bod y brifysgol wedi ymrwymo i’w datblygiad proffesiynol ac y bydd yn parhau i flaenoriaethu eu llesiant a’u datblygiad personol nhw.

Dywedodd Lesley Richards, Pennaeth CIPD Cymru: “Mae hi’n gamp aruthrol i Brifysgol Metropolitan Caerdydd taw hi yw’r brifysgol gyntaf yn y DU i ennill y fath gydnabyddiaeth a dylent fod yn falch iawn o’u llwyddiant. Mae’r teitl yma wir yn dangos eu hymdrechion i greu diwylliant sy’n rhoi pobl yn gyntaf er mwyn sicrhau bod eu gweithwyr yn parhau i ddarparu gwaith o safon ar gyfer y bobl y maent yn eu gwasanaethu.”