Met Caerdydd yn ennill gwobr aur yn Adroddiad Prifysgolion Gwyrdd
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd newydd gael ei rhestru fel Prifysgol Haen Aur yn Adroddiad 2023 Prifysgolion Gwyrdd Uswitch sy’n amlygu prifysgolion sy’n arwain y ffordd ar fentrau gwyrdd ac ynni adnewyddadwy.
Mae gan brifysgolion Haen Aur gymwysterau cynaliadwyedd rhagorol, gyda phob un ohonynt yn dewis bod ar dariff trydan gwyrdd sy’n cyflogi o leiaf un person i oruchwylio arferion cynaliadwyedd wrth gynnig gweithdai a gweithredu mentrau ecogyfeillgar i staff a myfyrwyr.
Dywedodd Rachel Roberts, Rheolwr Ymgysylltu Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Met Caerdydd: “Mae cynaliadwyedd ar yr agenda ym Met Caerdydd ac rydym wedi gwneud cynnydd anhygoel yn y maes hwn yn y blynyddoedd diwethaf. Ein ffocws wrth symud ymlaen yw sut y gallwn barhau â’r cynnydd hwn ac rydym yn awr yn gweithio tuag at greu ystâd ddi-garbon net drwy roi Cynllun Rheoli Carbon newydd ar waith yn 2024.
“Mae ein lle yn Haen Aur adroddiad Uswitch yn gydnabyddiaeth o’r camau breision y mae Met Caerdydd wedi’u gwneud.”
Mae uchafbwyntiau cymwysterau gwyrdd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnwys:
- Mae gan y Brifysgol osodiadau adnewyddadwy fel paneli solar, solar thermol, a phwmp gwres o’r ddaear.
- Mae gan Met Caerdydd gerbydau trydan fel rhan o’i fflyd.
- Mae hyfforddiant cynaliadwyedd yn orfodol i ddechreuwyr newydd. Mae staff a’r myfyrwyr yn cael cynnig y cyfle i gael eu hyfforddi fel Archwilwyr Amgylcheddol y Brifysgol.
- Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd achrediad arian fel campws Cyfeillgar i Ddraenogod.
Dywedodd Ben Gallizzi, arbenigwr ynni Uswitch.com, am y newyddion cadarnhaol gan brifysgolion Haen Aur: “Fel arweinwyr meddwl, mae’n wych gweld cymaint o brifysgolion yn cymryd yr awenau dros eu cynaliadwyedd drwy weithredoedd gwahanol.
“O fesurau syml, megis dewis derbyn eu hynni trwy dariffau ynni adnewyddadwy a chynnig cyfleusterau ailgylchu, i weithredu eu fflydoedd ceir trydan eu hunain a gosod ffynonellau ynni adnewyddadwy ar y campws. Mae prifysgolion y DU yn agosáu at ffordd wyrddach o weithio, ac yn ddeall bod pob dim yn helpu i leihau allyriadau carbon.”
Gallwch ddarllen adroddiad llawn Prifysgolion Gwyrdd Uswitch 2023 ar wefan Uswitch​.