Met Caerdydd yn ehangu ei rôl ym mhartneriaethau doethurol ESRC
Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) wedi ennill cais cystadleuol galwad agored ar gyfer Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol newydd (ESRC), a bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn chwarae rhan gynyddol ynddi.
Bydd Met Caerdydd yn parhau i fod yn rhan o’r llwybr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, yn ogystal â dau lwybr newydd – Addysg a Seicoleg.
Mae’r YGGCC yn ddilyniant i Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC blaenorol a fu’n hynod lwyddiannus acyn gweld buddsoddiad o £40m mewn ymchwil doethurol yng Nghymru, gyda £18.5m gan yr ESRC, £1.5 miliwn gan bartneriaid anacademaidd, a chefnogaeth yr holl SAU sy’n cymryd rhan.
Gyda chymorth ariannol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, bydd y bartneriaeth yn darparu hyd at 360 o ysgoloriaethau ymchwil ar draws pum carfan, gyda llwyfan hyfforddi a fydd yn creu cymuned ymchwil ôl-raddedig yn y gwyddorau cymdeithasol Cymru gyfan.
Dywedodd Yr Athro Sheldon Hanton, Dirprwy Is-Ganghellor Met Caerdydd (Ymchwil ac Arloesi): “Mae Met Caerdydd yn falch iawn o fod yn bartner yn Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru, partneriaeth newydd fawr a beiddgar a adeiladwyd ar hanes llwyddiannus iawn Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC lle buom hefyd yn bartner iddi.
“Mae ein hymrwymiad i YGGCC yn dystiolaeth bellach o’n hymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd ac yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol sydd i’w weld yns ein canlyniadau REF2021 a bydd hyn yn ein helpu i barhau i ddarparu profiad gradd ymchwil wirioneddol eithriadol, ac i adeiladu ar ein perfformiad rhagorol yn arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig y DU (PRES).”