Met Caerdydd yn dringo yn nhablau’r The Times Good Uni Guide
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi dringo i’w safle uchaf yn nhablau The Times and Sunday Times Good University Guide ers degawd.
Mae’r naid i safle 78 yn naid 15 lle o’r flwyddyn ddiwethaf. Daeth Met Caerdydd yn ail yng ngwobr Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru.
Mae tablau’r The Times and Sunday Times Good University Guide 2024, yn rhoi’r wybodaeth gywir i ddarpar fyfyrwyr a’u teuluoedd i wneud dewis gwybodus am eu haddysg uwch, gan werthuso ystod o fesurau sy’n cynnwys profiad y myfyrwyr, ansawdd yr addysgu a pherfformiad ymchwil. Mae safle’r Brifysgol eleni wedi cynyddu oherwydd perfformiad gwell yn y safonau mynediad, rhagolygon ein graddedigion a chanlyniadau graddau da.
Cafodd Met Caerdydd ei henwi’n brifysgol orau yng Ngynghrair People and Planet 2022/23, yr unig dabl gynhwysfawr ac annibynnol o brifysgolion y Deyrnas Unedig sy’n cael eu sgorio yn ôl perfformiad amgylcheddol a moesegol, sydd hefyd wedi cyfrannu at y naid hon.
Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-ganghellor Met Caerdydd: “Rydym yn ymdrechu’n barhaus i sicrhau bod Met Caerdydd yn darparu cyfleoedd rhagorol i bobl ifanc ehangu eu gorwelion, adeiladu eu gwybodaeth, a chaffael sgiliau lefel uchel newydd trwy addysgu, cefnogaeth a phrofiad ehangach y myfyrwyr a chanlyniadau graddedigion ardderchog.”