Skip to content

Met Caerdydd yn cael ei gyhoeddi fel Canolfan Datblygu Chwaraewyr ar gyfer Rygbi Menywod yng Nghymru

24 Mai 2023

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi’i henwi’n un o Ganolfannau Datblygu Chwaraewyr Undeb Rygbi Cymru i gefnogi datblygiad chwaraewyr ifanc sydd â photensial uchel ledled Cymru i’w helpu i gyflawni eu huchelgais i fod yn chwaraewyr rygbi elitaidd.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad a phartneriaeth sylweddol mewn rygbi Menywod a Merched i danategu llwyddiant diweddar dîm hŷn Menywod Cymru.

Two women compete for the rugby ball during a game

 

Bydd tair Canolfan Datblygu Chwaraewyr newydd – yn Nwyrain Cymru, Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru – yn cael eu sefydlu.

Bydd y rhaglen chwaraewr-cyntaf yn galluogi chwaraewyr i gael mynediad rheolaidd i amgylchedd datblygu perfformiad uchel ac i anelu at chwarae dros Gymru mewn arena Prawf.

Bydd y tair canolfan wedi eu lleoli yn:

  • Dwyrain: Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Gorllewin Cymru: Prifysgol Abertawe
  • Gogledd Cymru: Rygbi Gogledd Cymru ym Mharc Eirias

Bydd y canolfannau yn cael eu hariannu ar y cyd gan Undeb Rygbi Cymru a’i bartneriaid – datblygiad sy’n cydnabod ac yn arwain y cynnydd sylweddol yn nhwf y gêm yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae’r Undeb yn cydnabod bod y buddsoddiad yma’n angenrheidiol er mwyn galluogi Cymru i gystadlu ar y llwyfan byd-eang.

Bydd y cynllun newydd yn cydweithio law yn llaw gyda chyfres yr Her Celtaidd a sefydlu rhaglen Menywod Cymru o dan 20.

Cynhaliwyd proses dendro drylwyr cyn dewis y tair canolfan er mwyn gallu sicrhau bod merched addawol Cymru – o dan y lefel rhyngwladol – yn derbyn y cymorth ymarferol gorau posib.

Bydd y canolfannau o safon Academi fydd yn cynnig llwybr gyrfa glir i chwaraewyr allu gwireddu eu potensial a’u breuddwydion yn y gêm broffesiynol ac ar y llwyfan rhyngwladol.

Bydd y tair canolfan yn cydweithio er mwyn dod o hyd i rhwng 25-35 o chwaraewyr i gymryd rhan yn y cynllun yn flynyddol.

Bydd chwaraewyr yn parhau i gynrychioli eu clybiau, ysgolion, colegau a phrifysgolion wrth iddyn nhw baratoi i gynrychioli Cymru dan 18 ac 20, tîm yr Her Celtaidd a phrif dîm Cymru.

Pwysleisir safon yr hyfforddi, y cymorth meddygol a ffitrwydd yn y canolfannau o safbwynt datblygiad y chwaraewyr ond mae’n bwysig cadarnhau y bydd y rhaglen yn cymryd gofynion addysgol aelodau’r cynllun i ystyriaeth hefyd ac yn sicrhau bod y chwaraewyr yn cael y gorau o’r ddau fyd.

Yn gynharach eleni cadarnhawyd 25 o chwaraewyr proffesiynol gan Undeb Rygbi Cymru ac yn dilyn eu hymgyrch orau ym Mhencampwraieth Chwe Gwlad TikTok ers 2009 o dan arweiniad Ioan Cunningham, mae Menywod Cymru bellach yn chweched ymhlith detholion y byd – eu safle uchaf erioed.

Dywedodd Ben O’Connell, Cyfarwyddwr Chwaraeon Met Caerdydd: “Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wrth ein boddau ein bod wedi ein dewis yn un o’r tair canolfan. Mae gennym hanes hir a balch o ragoriaeth ym myd y campau ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ychwanegu at y gwaddol hwnnw trwy gyfrwng y bartneriaeth newydd hon – fydd yn y pendraw yn datblygu chwaraewyr elît yn y crys coch ar y llwyfan rhyngwladol.”

Dywedodd cyn gapten Cymru Siwan Lillicrap – sydd bellach yn Rheolwr Llwybr Datblygiad URC ac hefyd yn hyfforddwr timau rhyngwladol oedrannau iau Cymru: “Mae hwn yn ddatblygiad allweddol i’r gêm yng Nghymru sy’n cynnig llwybr clir i chwaraewyr addawol allu gwireddu eu potensial trwy gynrychioli Cymru ar y lefel uchaf.

“Trwy sicrhau cefnogaeth ac ymrwymiad Met Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Rygbi Gogledd Cymru – mae siwrnai gyffrous o’n blaenau.

“Mae perfformiadau diweddar tîm Cymru wedi dangos y potensial sydd gennym yma yng Nghymru ac mae’r torfeydd diweddar wedi dangos bod diddordeb mawr gan y cyhoedd yn natblygiad gêm y menywod.

“Fe fydden i wedi dwlu cael y math yma o gyfle pan oeddwn i’n chwarae ac mae’r cynllun hwn yn dangos pa mor bell mae rygbi merched a menywod wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd diweddar.”

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Menywod Cymru: “Mae’r Canolfannau Datblygu yn cynnig cyfle gwirioneddol i ni fuddsoddi yn y talent sydd gennym yng Nghymru fel y gallwn ni sicrhau ein bod yn cystadlu o ddifrif ar y lefel rhyngwladol. Bydd hyn hefyd yn galluogi chwaraewyr y genhedlaeth nesaf i gystadlu gyda goreuon y byd.”

Ychwanegodd Nigel Walker, Prif Weithredwr URC: “Rwy’n hynod o falch ein bod wedi cymryd cam sylweddol arall yn natblygiad rygbi merched a menywod yma yng Nghymru. Bydd y strwythr newydd a’n gallu i adnabod talent y dyfodol yn allweddol wrth i ni gymryd camau cadarnhaol pellach.