Mam i ddau o blant yn cael swydd ddelfrydol ar ôl dychwelyd i fyd addysg fel oedolyn
Mae mam i ddau o Gaerdydd a aeth yn ôl i addysg fel oedolyn wedi sicrhau ei swydd reoli ddelfrydol yn gweithio gyda phobl sy’n agored i niwed mewn cymdeithas dai.
Dechreuodd Harriet Willis-Adams, 33 o Cathays, wirfoddoli i Gymdeithas Tai Cadwyn i roi yn ôl i’r gymdeithas a chafodd ei hannog i roi cynnig ar gwrs mynediad a allai arwain at gyfleoedd addysg a chyflogaeth barhaus yn y sector tai.

Ar ôl cwblhau cwrs mynediad Iechyd a Gofal Cymdeithasol trwy raglen Ehangu Mynediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd, aeth Harriet ymlaen i gwblhau cwrs sylfaen Gwyddorau Cymdeithasol a gradd israddedig mewn tai yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd.
Nawr, yn ystod Wythnos Addysg Oedolion 2023 (18 –24 Medi), mae Harriet yn annog eraill sydd am gynyddu eu siawns i gael gwaith i ystyried cyrsiau Ehangu Mynediad fel mynediad i ennill cymwysterau eraill.
Dywedodd: “Mae mynd yn ôl i addysg wedi yn werth chweil a dangosodd i mi nad oes rhaid i ddysgu ddod i ben yn yr ysgol. Mae cwblhau cwrs mynediad yn ffordd wych o benderfynu a yw addysg yn addas i chi. Mae’n rhad ac am ddim, felly ni fyddwch yn colli unrhyw beth ond efallai y byddwch yn elwa’n fawr ohono, fel y gwnes i. Mae’r cwrs mynediad wedi fy ngalluogi i gyflawni fy ngradd a sicrhau swydd llawn amser yn y diwydiant yr wyf yn ei garu.”
Ar ôl graddio yn yr haf o Brifysgol Met Caerdydd, llwyddodd Harriet i sicrhau swydd llawn amser gyda Chymdeithas Tai Cadwyn fel Arweinydd Tîm ar gyfer llety â chymorth.
Cwblhaodd Harriet ei thaith addysg pedair blynedd yn astudio cwrs mynediad a gradd ochr yn ochr â bod yn fam, a rhedeg busnes glanhau a gwirfoddoli gyda Cadwyn.
Ychwanegodd: “Roedd yn frawychus camu i’r ddarlithfa am y tro cyntaf a does neb yn fy nheulu erioed wedi bod i’r brifysgol felly doedd gen i ddim neb i esbonio beth i’w ddisgwyl. Ond fe wnes i gwrdd â llawer o bobl o’r un anian ar y cwrs a oedd ar daith debyg i fy un i. Roedd gweld oedolion eraill sy’n dysgu a oedd hefyd yn cydbwyso bywyd teuluol a gwaith yn ysbrydoliaeth ac wedi fy ysgogi.”
Mae rhaglen Ehangu Mynediad Met Caerdydd yn rhoi cyfle teg a chyfartal i bobl o unrhyw oedran, cefndir neu grŵp ethnig i astudio cyrsiau mynediad, lefel sylfaen neu radd, ac mae’r rhaglen wedi cefnogi bron i 450 o unigolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n rhedeg mewn partneriaeth ag Ymestyn yn Ehangach, sef partneriaeth genedlaethol o brifysgolion, ysgolion a cholegau sy’n cydweithio i wella symudedd cymdeithasol drwy ehangu mynediad i bob math o addysg uwch ac a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
Dywedodd Harriet: “Cefais gefnogaeth wych gan y darlithwyr ym Met Caerdydd a oedd mor garedig ac yn deall fy sefyllfa. Roedd hynny’n gwneud dychwelyd i addysg yn brofiad cadarnhaol iawn ac rydw i hyd yn oed yn ystyried gradd Meistr ochr yn ochr â gweithio llawn amser pe bai’r cyfle’n dod. Does dim byd yn fy rhwystro nawr.”
Mae rhagor o wybodaeth am gyrsiau Ehangu Mynediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gael yma.