Skip to content

Gweinidog yn cefnogi partneriaeth i adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng addysg a chymuned

9 Hydref 2023

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, wedi cefnogi partneriaeth newydd a fydd yn helpu i gryfhau’r berthynas rhwng darparwyr addysg a’r gymuned.

Jeremy Miles and heads of south Wales Universities and Colleges

 

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn un o’r sefydliadau yn y bartneriaeth ochr yn ochr â PDC, Prifysgol Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y Brifysgol Agored, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Merthyr Tudful, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Gwent, a Choleg y Cymoedd.

Siaradodd Mr Miles o blaid Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru (SWCEP) sydd newydd ei ffurfio – sy’n bartneriaeth rhwng y pum prifysgol a’r pum coleg sy’n gweithredu o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – yn ystod ei lansiad ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn Nhrefforest.

Gyda’r nod cyffredin o Agenda Cenhadaeth Ddinesig a rennir, bydd y bartneriaeth strategol yn gwella’r cysylltiadau rhwng y sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach, tra’n darparu dull mwy cydweithredol o ymgysylltu dinesig yn y rhanbarth – dull a fydd yn ymateb i anghenion lleol a rhanbarthol a nodwyd.

I gadarnhau’r ymrwymiad hwn a rennir i Genhadaeth Ddinesig yn y rhanbarth, yn ystod y lansiad yn PDC, llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) gan gynrychiolwyr pob partner SWCEP.

Dywedodd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles: “Mae gan ein colegau a’n prifysgolion rôl hollbwysig i’w chwarae wrth gefnogi llwybrau allan o dlodi, gweithio mewn partneriaeth â phobl a chymunedau, a chynnig cyfle i unigolion o gefndiroedd amrywiol ddod at ei gilydd. Rwyf wedi bod yn falch o glywed am y sgyrsiau y mae’r sefydliadau wedi bod yn eu cael gyda sefydliadau cymunedol ynghylch sut y gallant helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y rhanbarth drwy weithio gyda nhw.

“Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ysgogi ymagwedd fwy strategol at ymgysylltu dinesig ar draws pob rhan o addysg a hyfforddiant ôl-16, gan annog sefydliadau i ymestyn y tu hwnt i’r campws a helpu i hyrwyddo llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae’r cytundeb hwn rhwng sefydliadau yn rhoi cyfle gwirioneddol i symud y gwaith hwn ymlaen mewn ffordd gadarnhaol iawn.”

Dywedodd yr Athro Rachael Langford, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch iawn o fod yn aelod o Bartneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gydag eraill i wella’r cysylltiadau rhwng ein haddysgu, dysgu, ymchwil, arloesi a gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar y gymuned er budd anghenion lleol a rhanbarthol. Mae gennym hanes balch o weithio gyda phwrpas ac effaith i wella bywydau y tu hwnt i’n campysau trwy fentrau fel Campws Agored Met Caerdydd, ac rydym yn edrych ymlaen i fod yn rhan o’r fenter newydd arloesol hon.”

Dywedodd Cadeirydd SWCEP, Dr Louise Bright, sydd hefyd yn Ddirprwy Is-ganghellor dros Fenter, Ymgysylltu a Phartneriaethau yn PDC, y bydd cam cychwynnol y cydweithio yn canolbwyntio ar wrando ar grwpiau cymunedol sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn i helpu pobl yn y rhanbarth.

“Drwy glywed yr hyn sydd gan y sefydliadau cymunedol i’w ddweud, gall y colegau a’r prifysgolion ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd weithio gyda nhw i helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn yr ardal,” meddai Dr Bright.

“Mae pob un o’r cyrff addysgol wedi dangos eu hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y wlad fel y nodir yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a bydd y bartneriaeth hon yn eu helpu i gryfhau’r adduned honno.

“Rydym yn edrych ymlaen at feithrin perthnasoedd cryfach gyda phartneriaid cymunedol wrth i’r SWCEP ddatblygu.”

Dywedodd Jacob Ellis, Arweinydd Ysgogi Newid: Materion Cyhoeddus a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: “Mae datblygiad Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru yn dangos cydnabyddiaeth o bwysigrwydd cydweithio rhwng y sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach i gwrdd â heriau’r cymunedau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

“Wrth weithio ar y cyd, trwy lens nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, byddai’r bartneriaeth mewn lle hanfodol a strategol i wrando ar gymunedau ac ymateb i heriau allweddol.”​