Enwebu Met Caerdydd yng Ngwobrau Global Student Living
Cyhoeddwyd bod Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Byw Myfyrwyr Byd-eang yn y categori Rheolaeth Amgylcheddol Orau.
Mae’r Gwobrau Global Student Living yn gyfan gwbl seiliedig ar adborth gan dros 70,000 o fyfyrwyr a holwyd am eu profiad.
Mae gan y Gwobrau Global Student Living 14 categori ar gyfer y DU ac Iwerddon, ac 11 categori ar gyfer Ewrop. Bydd Met Caerdydd yn cystadlu yn erbyn pedair prifysgol arall yn y categori Rheolaeth Amgylcheddol Orau yn y gwobrau ar 19eg Hydref 2023.
Dywedodd Neil Woollacott, Dirprwy Reolwr Gwasanaethau Llety: “Rydym wrth ein bod y Brifysgol wedi cael ei henwebu ar gyfer y gwobrau hyn o ystyried eu bod yn gyfan gwbl seiliedig ar adborth myfyrwyr. Rydym bob amser yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd diogel a chyfforddus i’n myfyrwyr, ac mae enwebiad hwn yn dyst i’r gwaith caled y mae’r tîm Neuaddau yn ei wneud i gyflawni ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd.”
Mae’r rhestr lawn o enwebeion yma.