Skip to content

Dyn busnes o Gaerdydd yn cael Cymrodoriaeth er Anrhydedd

26 Gorffennaf 2024

​​​​Mae Steve Borley, un o ddynion busnes ​mwyaf llwyddiannus y ddinas, wedi cael Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd heddiw (dydd Mercher 26 Gorffennaf).

Yn Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp CMB Engineering, y cwmni gwasanaethau adeiladu annibynnol mwyaf yng Nghymru ac un o’r 300 cwmni mwyaf yng Nghymru, mae gan Steve dros 30 mlynedd o brofiad o redeg ei fusnes ei hun.

Sefydlodd Steve CMB ym 1992 gyda dim ond £250 yn y banc. Aeth y busnes ymlaen i greu trosiant o £5m yn ystod ei bum mlynedd cyntaf ac erbyn hyn mae’n cyflogi dros 150 o bobl ar draws pum swyddfa. Amcangyfrifir bod ganddo drosiant o £85m y flwyddyn.

Wrth sôn am ei wobr, dywedodd Steve: “Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael cymrodoriaeth gan y sefydliad gwych hwn ble dechreuais ar fy nhaith ar y llwybr peirianneg a chwaraeon sydd wedi arwain fy mywyd.”

Dechreuodd perthynas Steve â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd pan ddaeth yn fyfyriwr ym 1974. Ei enw blaenorol oedd Coleg Technoleg Llandaf, ac yma yr astudiodd Steve gyrsiau gwasanaethau adeiladu a pheirianneg fecanyddol, gan ennill rhagoriaeth, a chafodd wobr myfyriwr y flwyddyn am bum mlynedd yn olynol.

Cafodd Steve ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd, ac mae hefyd yn frwd dros chwaraeon ac mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, ac yn gyn-gadeirydd, ers dros 25 mlynedd. Roedd yn westai yng Ngwobrau Chwaraeon blynyddol Undeb Myfyrwyr y Brifysgol ac mae'n gobeithio datblygu cysylltiadau â'r Brifysgol i gefnogi twf chwaraeon ar draws y Ddinas, yn enwedig o ran datblygu pêl-droed menywod.

Mae Steve yn gweld gwerth prentisiaethau drwy ei brofiad ei hun ac mae gweithlu CMB bellach yn cynnwys dros 80% o beirianwyr a gweithwyr sydd wedi cael hyfforddiant gan CMB o dan bolisi hyfforddi a chadw’r cwmni.

Steve Borley holding their Honorary Fellowship
​​Steve Borley

 

Cyngor gorau Steve i fyfyrwyr sy’n graddio fyddai: “Mentro breuddwydio a pheidio â derbyn na ellir ei wneud. Yr unig rwystrau mewn bywyd yw’r rhai yn y meddwl a pheidiwch byth â bod ofn cwestiynu barn neu wybodaeth a gyflwynir i chi.​”​​