Dyfarnu gradd meistr i fam i ddau o blant
Bydd myfyrwraig a ddaeth yn fam am yr eildro tra’n astudio ar gyfer ei gradd Meistr yn graddio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yr wythnos hon.

Dechreuodd Chantelle Evans, 36, o Gaerdydd, y radd Meistr Seicoleg Fforensig yn 2020 yn ystod y pandemig pan oedd yr holl addysgu ar-lein, ochr yn ochr â bod yn fam i ddau o blant ifanc – gan gynnwys ei mab 18 mis oed anwyd yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol.
Dywedodd Chantelle: “Penderfynais fynd i’r brifysgol pan ddechreuodd fy merch yn yr ysgol feithrin. Roedd gen i ychydig mwy o amser i ganolbwyntio arnaf fy hun gan fy mod eisiau gwella fy rhagolygon gyrfa a dysgu rhywbeth newydd. Ar ôl cwblhau fy ngradd BSc Seicoleg gyda Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol De Cymru, penderfynais barhau â’m hastudiaethau gan fy mod wedi mwynhau’r cwrs yn fawr ac eisiau arbenigo mewn seicoleg fforensig.
“Er i mi fwynhau’r MSc, roedd y daith yn anodd ar adegau. Roeddwn hefyd yn eithaf sâl yn ystod fy meichiogrwydd. Roedd yn rhaid i mi gwblhau llawer o’r gwaith pan oedd y babi’n cysgu, ond roedd fy mhartner yn wych ac yn mynd â’r ddau blentyn allan am y diwrnod pan oedd dyddiadau cau ar y gorwel i roi rhywfaint o amser ychwanegol i mi. Roedd yn rhaid i mi fod yn garedig â fy hun a derbyn y ffaith fy mod yn ceisio cwblhau gwaith o dan amgylchiadau anodd felly wnes i ddim barnu’n hun yn ormodol os nad oeddwn i’n cael y graddau uchel.”
Mae gan Chantelle hefyd swydd yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol lle mae hi wedi gweithio ers dros bedair blynedd. Aeth ymlaen i ddweud; “Rwyf nawr yn bwriadu gweithio fy ffordd i fyny’r ysgol waith, ac unwaith y bydd fy mabi ychydig yn hŷn, rwy’n gobeithio dychwelyd i astudio a chwblhau’r hyfforddiant a’r cymwysterau sydd eu hangen i ddod yn seicolegydd fforensig.”