Cyrsiau byr am ddim ar gael yn Ysgol Haf Met Caerdydd
Gall oedolion sy’n dymuno dychwelyd i addysg uwch gymryd rhan mewn cyrsiau byr am ddim ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yr haf hwn.
Mae dros 25 o gyrsiau ar gael ar gampws Llandaf y Brifysgol rhwng 12 a 23 Mehefin 2023, yn amrywio o fynediad i addysgu, ffotograffiaeth a throsedd a chyfiawnder cymdeithasol – i enwi ond ychydig.

Dywedodd Charlotte Arundel, Swyddog Ehangu Mynediad: “Mae Ysgol Haf Prifysgol Met Caerdydd yn rhoi cyfle i ddysgwyr sy’n oedolion i roi cynnig ar amrywiaeth o gyfleoedd dysgu diddorol a difyr, yn rhad ac am ddim. Sefydlwyd y rhaglen dros 15 mlynedd yn ôl i helpu dysgwyr sydd heb gael mynediad i addysg uwch eto am nifer o resymau gewahanol.
“Bob blwyddyn, mae’r rhaglen yn mynd o nerth i nerth ac mae’r cyrsiau sydd ar gael yn agor drysau i’n dysgwyr, sydd wedyn yn symud ymlaen i un o’n cyrsiau cymunedol ac yn y pen draw, yn darparu llwybr i astudio’n llawn amser yn y Brifysgol.”
Mae Ysgol Haf Prifysgol Met Caerdydd yn agored i oedolion dros 18 oed, fodd bynnag rhoddir blaenoriaeth i bobl sy’n bodloni meini prawf penodol, gan gynnwys y rhai sy’n byw mewn ardaloedd gyda lefel isel o ymgysylltu ar incwm isel, sy’n wynebu tlodi mewn gwaith, neu unigolion sydd heb gael mynediad i addysg uwch eto.
Nod Tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw sicrhau bod unigolion o unrhyw oedran, cefndir neu grŵp ethnig yn cael cyfle teg a chyfartal i gael mynediad i Addysg Uwch.
Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael a sut i gofrestru ar gael ar wefan Metropolitan Caerdydd: Ysgol Haf Ehangu Mynediad.