Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn arddangos pŵer trawsnewidiol ymchwil prifysgolion Cymru
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi datgelu adroddiad sy’n rhoi cipolwg ar yr ymchwil sy’n cael ei wneud ym mhrifysgolion Cymru a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei chael ar bobl, gan gynnwys ymchwil arloesol gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Comisiynodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru King’s College London i gynhyrchu ‘Effeithiau ymchwil prifysgolion Cymru’, sef dadansoddiad o 280 o astudiaethau achos effeithiau a gyflwynwyd i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2021. Mae’r dadansoddiad hwn yn taflu goleuni ar y ffyrdd niferus mae ymchwil prifysgolion Cymru yn cyfoethogi cymunedau lleol ac yn gwneud gwahaniaeth ar draws y byd.
Mae’r adroddiad yn datgelu ystod o ganfyddiadau, gan danlinellu dyfnder ac ehangder y cyfraniadau a wneir gan ymchwil prifysgolion Cymru. Roedd chwarter o effaith yr ymchwil o fudd i blant a phobl ifanc.
Mae cyfanswm o 25 o wahanol grwpiau o bobl wedi elwa o effaith ymchwil Cymru, o deuluoedd i ofalwyr, llunwyr polisi i’r henoed. Mae ffocws lleol yn amlwg gan fod 70% o’r ymchwil a adroddwyd wedi cael effaith uniongyrchol o fewn Cymru. Eto i gyd, ni ellir gwadu’r cyrhaeddiad byd eang, gyda dros 60% yn ymestyn yn rhyngwladol i wledydd fel Awstralia, Tsieina, Norwy, a Japan, sy’n pwysleisio arwyddocâd byd eang ac yn dangos cyrhaeddiad eang ein prifysgolion Cymreig.
Cafodd ymchwil arloesol Met Caerdydd i ofal dementia gwell ei gynnwys yn yr adroddiad. Mae’r ymchwil wedi mynd ymlaen i wella ansawdd bywyd pobl â dementia datblygedig wedi dangos effaith gymdeithasol ddwys. Trwy greu a gwerthuso gwrthrychau a ddyluniwyd gyda chwarëusrwydd, creadigrwydd, a chyffyrddiad mewn golwg, fel yr HUG™ arloesol, mae’r adroddiad yn datgan bod ‘y tîm wedi cyfrannu at allu gweithredol a gwybyddol cynyddol mewn 87% o gleifion dementia sy’n cymryd rhan mewn treialon.’
Dywedodd yr Athro Sheldon Hanton, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil ac Arloesi) ym Met Caerdydd: “Rydym yn falch o fod yn cynhyrchu ymchwil ym Met Caerdydd sy’n cael effaith bellgyrhaeddol a’r gallu i drawsnewid bywydau, fel HUG™. Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i feithrin diwylliant ymchwil bywiog a chefnogi staff gyda’u dyheadau ymchwil, sy’n ganolog i’n hethos o addysgu a dysgu sy’n seiliedig ar ymchwil.”
Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ar ganfyddiadau’r adroddiad: “Mae’r dadansoddiad hwn yn tanlinellu rôl aruthrol prifysgolion Cymru o ran meithrin ymchwil ac arloesi ac ail lunio gwead cymdeithas. Nid yn unig y mae’n dangos ymrwymiad ac arbenigedd ein cymuned academaidd, ond mae hefyd yn adlewyrchu cred ddiysgog Cymdeithas Ddysgedig Cymru yng ngrym trawsnewidiol gwybodaeth er budd Cymru a thu hwnt. Wrth i’r DU edrych ymlaen at gysylltiad llawn â rhaglen Horizon Europe, rydym yn obeithiol ynghylch y cyfleoedd cydweithredol cynyddol a’r potensial ar gyfer mwy fyth o gyfleoedd am ddatblygiad cymdeithasol yn y dyfodol.”